A NO VACANCIES SIGN OUTSIDE A B&B IN CHELTENHAM UK. Image shot 2001. Exact date unknown.Darllenwch Luc 2:1-7

Mae gan y Saeson ymadrodd: “The devil is in the detail.” Yr awgrym yw fod y darlun eang yn gallu ymddangos yn braf a hawdd, ond wrth i ni fanylu, dyna pryd mae pethau’n mynd yn anodd. Ond wrth edrych ar hanes y Nadolig mae gras yn dod i’r amlwg yn y manylion.

Cymrwch chi Mair a Joseff, er enghraifft. Dyma chi ddau unigolyn gwerthfawr i’r rhai o’u cydnabod mae’n siwr, ond yng nghynllun mawr ymherodraeth Rhufain doedden nhw’n neb arbennig. Dim ond dau i’w hychwanegu at y ffigyrau wrth i Cesar geisio gwybod faint o bobl oedd yn ei deyrnas. Hyd yn oed o fewn Israel doedden nhw ddim mor arbennig â hynny, yn byw yn Nasareth – pentref di-nod yng ngogledd Palesteina.

Ond yn nhrefn Duw roedden nhw’n cyfrif – ac yn ôl y drefn honno roedd yn rhaid iddyn nhw fod ym Methlehem ar gyfer geni’r Gwaredwr. (Micha 5:2). Felly mae Duw yn troi calon y Brenin i feddwl am statistics ei diriogaeth, ac mae’n danfon allan orchymyn oedd yn golygu fod yn rhaid i Joseff deithio i Fethlehem. (Diarhebion 21:1)

Ond wedyn, os oedd Duw yn gallu trefnu i Awgwstws filoedd o filltiroedd i ffwrdd orchymyn cyfrifiad, sut na allai drefnu fod lle yn y llety i Iesu? Wrth gyrraedd Dinas Dafydd fyddai hi ddim yn anodd gwneud yn siwr fod ganddo le gwell i gael ei roi na phreseb yr anifail?
Dyma lle mae gras yn dod i’r amlwg yn y manylion unwaith eto. Ffordd y groes oedd ffordd y Gwaredwr i fod. Doedd dim osgoi hynny hyd yn oed wrth iddo gael ei eni. Flynyddoedd wedyn fe fyddai Iesu ei hun yn dweud: “Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr.” (Mathew‬ ‭8:20‬ ‭BCN‬‬) Felly wrth gyrraedd Bethlehem, y lle isaf gafodd i’n Harglwydd.

Dyma’r Duw sy’n gwybod am fanylion ein bywyd ninnau hefyd, er i ni weithiau feddwl am ei ofal mewn termau cyffredinol iawn. Fe soniwn am ein hiachawdwriaeth fel petai yn rhywbeth pell i ffwrdd. Ond daw gras i’r amlwg hyd yn oed ym manylion ein bywydau ninnau. Felly os nad yw cynllun Duw yn ymddangos yn glir a hawdd i chi ar y funud, cofiwch sut un yw Duw’r llety llawn.
‘Oni werthir dau aderyn y to am geiniog? Eto nid oes un ohonynt yn syrthio i’r ddaear heb eich Tad. Amdanoch chwi, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chwi’n werth mwy na llawer o adar y to.’
‭‭(Mathew‬ ‭10:29-31‬)