Nadolig 5

imageDarllenwch Luc 2:36-38

Beth yw eich gobeithion chi am eich bywyd? Anaml bydd ein bywydau yn dilyn y patrwm rydym yn ei obeithio. Mae gennym gynlluniau, ac efallai ein bod yn llwyddo i gyflawni rhai ohonyn nhw. Ond wedyn mae pethau annisgwyl yn torri ar draws y cyfan. Mae hanes y byd yn llawn o straeon am bobl ddaru gael rhywbeth annisgwyl yn newid cwrs eu bywyd. (rhagor…)

Nadolig 3

imageDarllenwch Luc 2:15-20

Mae’r dathlu’n parhau i lawer heddiw, er fod pethau yn dechrau tawelu. Mae’r plant yn mwynhau eu anrhegion o hyd. Mae papur yr anrhegion wedi ei glirio a’r bwyd yn raddol leihau. Mae berw diwrnod cyntal y “Boxing day sales” drosodd, a neb allan yn gynnar iawn i ddisgwyl i’r siopau agor heddiw dybiwn i. Er i rai geisio cadw’r cynnwrf i fynd, mae’n anorfod fod yna ryw ostwng y lefel o fwrlwm. (rhagor…)

Nadolig 2

imageDarllenwch Mathew 2:12-18

Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod gwahanol. Dyna pam fod y myfyrdod yn hwyr yn ymddangos. Gadewch i mi egluro. Roeddwn i fyny cyn hanner awr wedi pedwar, er mwyn mynd â Heledd, fy merch, i faes awyr Manceinon. Mae’n cymryd rhan mewn cynhadledd yn yr Unol Daleithiau – cynhadledd sy’n digwydd bob tair blynedd lle disgwylir 17,000 o fyfyryr i feddwl am waith yr Arglwydd. (rhagor…)

Nadolig 2014, 10

imageDaethant i’r tŷ a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a’i addoli, ac wedi agor eu trysorau offrymasant iddo anrhegion, aur a thus a myrr. (‭Mathew‬ ‭2‬:‭11‬ BCN)

Am nifer o resymau mae’r Nadolig yn cael ei gysylltu gydag anrhegion. Fe ddaeth y Doethion ag anrhegion i’w rhoi i’r baban Iesu. Cofiwn mai anrheg mawr Duw i’n byd yw yr Arglwydd Iesu ei hun. Daeth yn draddodiad felly i roi anrhegion i’n gilydd wrth ddathlu. (rhagor…)

Nadolig 2014, 9

image“Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.” (‭Mathew‬ ‭28‬:‭20‬ BCN)

Rydym wedi bod yn dathlu’r ffaith fod Duw wedi dod i’n byd mewn baban bach. Dyma un o’r pethau sy’n gwneud Cristnogaeth yn unigryw. Er i lawer o bobl geisio honni fod dilynwyr cynnar Iesu wedi ceisio dwyn syniad o chwedloniaeth y Groegiaid ac eraill am y duwiau yn dod i lawr i fyd dynion, eto does yna’r un o’r chwedlau, nac un o grefyddau eraill y byd ychwaith yn honni’r hyn a wna Cristnogion. Daeth y Gair yn gnawd. Nid dod mewn rhith. Daeth Duw yn un ohonom ni. Mae’r syniad yn un sy’n ymestyn ein meddyliau wrth i ni geisio ei werthfawrogi. (rhagor…)

Nadolig 2014 – Y Seren

images (10)A phan welsant y seren, yr oeddent yn llawen dros ben. (‭Mathew‬ ‭2‬:‭10‬ BCN)

Mae llawer o ddyfalu wedi bod am seren Bethlehem. Beth yn union welod y Doethion? Ai comed oedd, megis comed Halley? Neu tybed ai dwy blaned â’u golau yn cyd-daro i ymddangos fel seren arbennig o ddisglair. Bu’r astronomyddion yn edrych ar batrymau’r sêr a cheisio dyfalu pryd yn union y bu hyn. (Mae cytundeb fod y rhai fynnodd yn y 6ed ganrif ar ddyddiad geni Crist yn anghywir.) (rhagor…)

Llawenháu yn yr Anrheg

images (5)Sut mae’r anrhegion erbyn hyn? Gobeithio eu bod yn dal i blesio, ond wythnos wedi’r Nadolig efallai fod yr excitement wedi lleihau bellach. Bydd rhieni yn ddiolchgar fod ambell i degan wedi tawelu am fod y batri wedi mynd yn fflat. Bydd ambell i anrheg efallai wedi torri. Mae’n siwr fod nifer ohonyn nhw yn dal i ddod â phleser mawr, ond bydd ambell un arall wedi cael ei roi o’r neilltu a rhai o’r hen deganau wedi cael dod allan erbyn hyn. Mae rhai o’r trimmings Nadolig yn edrych ychydig yn hen, nodwyddau’n disgyn oddi ar y goeden, a’r twrci gobeithio wedi hen ddiflannu. Dyna sut y dylai fod ar un olwg. (rhagor…)