imageDarllenwch Luc 2:15-20

Mae’r dathlu’n parhau i lawer heddiw, er fod pethau yn dechrau tawelu. Mae’r plant yn mwynhau eu anrhegion o hyd. Mae papur yr anrhegion wedi ei glirio a’r bwyd yn raddol leihau. Mae berw diwrnod cyntal y “Boxing day sales” drosodd, a neb allan yn gynnar iawn i ddisgwyl i’r siopau agor heddiw dybiwn i. Er i rai geisio cadw’r cynnwrf i fynd, mae’n anorfod fod yna ryw ostwng y lefel o fwrlwm.

Ac eto, mae gwir neges y geni yn dal yma. Beth ddylai ein hymateb ni i’r ffaith fod Gwraedwr wedi ei eni fod? Gwelwn dri ymateb mewn tair adnod nesaf at ei gilydd yn y darlleniad heddiw.

Yn gyntaf, rhyfeddod – ‘Rhyfeddodd pawb a’u clywodd at y pethau a ddywedodd y bugeiliaid wrthynt;’ (Luc‬ ‭2:18‬ ‭BCN‬‬). Peidiwch â cholli’r gallu i ryfeddu at yr ymgnawdoliad, a pheidiwch â’i gyfyngu i un diwrnod o’r flwyddyn. “Daeth Duwdod mewn baban i’n byd!” Mae yna ddirgelwch mawr yn yr hyn sydd yma. Does ryfedd i angylion frysio i ganu uwch bryniau Bethlehem o weld eu Harglwydd yn faban diymadferth. Does ryfedd i’r seren lewyrchu ei golau ar Oleuni’r Byd yn gorwedd yn y preseb.

Yn ail, myfyrio – ‘ond yr oedd Mair yn cadw’r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon ac yn myfyrio arnynt.’ (Luc‬ ‭2:19‬ ‭BCN‬‬) Mewn byd prysur, fe gollwyd y gallu gan lawer i aros a throi pethau yn araf yn ein meddyliau. Ewch eto trwy yr hanes, a holwch beth yw arwyddocád pob dim. Pam daeth Iesu? Pam yr anrhegion arbennig hyn o aur, thus a myrr? Pam fod Herod mor benderfynnol o ddifa’r plentyn? Beth sydd gan y cyfan i’w ddweud wrthyf fi yn bersonol? Sut mae fy mywyd i yn cael ei effeithio gan y baban hwn? Gosodwch y geni yng nghyd-destun gweddill hanes Iesu. Gwelwch sut mae’n ffitio i mewn i hanes mawr y Beibl. Cadwch y pethau hyn yn ddiogel yn eich calon, a gadewch iddyn nhw fwydo i mewn i’ch bywyd.

Yn drydydd, mawl – ‘Dychwelodd y bugeiliaid gan ogoneddu a moli Duw am yr holl bethau a glywsant ac a welsant, yn union fel y llefarwyd wrthynt.’ (Luc‬ ‭2:20‬ ‭BCN‬‬). Pa fath Dduw ydi hwn sy’n torri i mewn i’n byd gwrthryfelgar er mwyn ein hadfer, a hynny am y fath gost? Onid oes diolchgarwch yn codi yn eich calon o feddwl am hyn? Onid yw’n naturiol ein bod yn mynegi ein diolchgarwch mewn rhyw ffordd? Os gallwch, ffeindiwch wasanaeth i fynd iddo, a chanwch y carolau yn llawen. Dywedwch wrth Dduw mor rhyfeddol yw ei gynllun a’i drugaredd, a dywedwch wrth eich gilydd pa mor dda yw ein Gwaredwr bendigedig.