Adfent 2014
Tymor yr Adfent 2014, 8
I ddinistrio gweithredoedd y diafol yr ymddangosodd Mab Duw. (1 Ioan 3:8 BCN)
Sut wythnos sydd o’ch blaen tybed? Ydech chi yn edrych ymlaen at y dyddiau nesaf, neu oes yna elfen o bryder, ansicrwydd neu hyd yn oed ofn? Mae hanes geni ein Harglwydd yn dwyn gobaith i’n byd, a gobaith am y dyddiau nesaf.
Gwyddom mai bwriad y diafol wrth demtio Efa oedd dinistrio gwaith Duw. Gwelwn ôl ei waith bob dydd yn y newyddion ddaw drwy’r teledu. Ond gwelwn ei ôl hefyd yn yr ofnau sydd gennym ni wrth wynebu dyfodol ansicr. (rhagor…)
Yn sydyn ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud: “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd. ” (Luc 2:13-14 BCN)
Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, Ni ddaeth fy amser i eto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod. (Ioan 7:6 Cyfieithiad William Morgan)
Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau’n ysigo’i sawdl ef.” (Genesis 3:15 BCN)
A phan ddeallodd y wraig fod y pren yn dda i fwyta ohono, a’i fod yn deg i’r golwg ac yn bren i’w ddymuno i beri doethineb, cymerodd o’i ffrwyth a’i fwyta, a’i roi hefyd i’w gŵr oedd gyda hi, a bwytaodd yntau. (Genesis 3:6 BCN)
Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw. (Salmau 42:1 Cyfieithiad William Morgan)
Mae Rhagfyr y cyntaf wedi cyrraedd ac felly mae yna un thema yn llenwi’r siopau, yr hysbysebion ar y teledu, a strydoedd ein trefi a’n dinasoedd – mae’r Nadolig yn nesáu. Bydd yna baratoi o ddifrif yn digwydd. Mae Black Friday drosodd, Cyber Monday heddiw, ond mewn gwirionedd y pwyslais fydd paratoi ac edrych ymlaen at gael dathlu ar Ragfyr y pumed-ar-hugain. 
