imageI ddinistrio gweithredoedd y diafol yr ymddangosodd Mab Duw. (‭1 Ioan‬ ‭3‬:‭8‬ BCN)

Sut wythnos sydd o’ch blaen tybed? Ydech chi yn edrych ymlaen at y dyddiau nesaf, neu oes yna elfen o bryder, ansicrwydd neu hyd yn oed ofn? Mae hanes geni ein Harglwydd yn dwyn gobaith i’n byd, a gobaith am y dyddiau nesaf.

Gwyddom mai bwriad y diafol wrth demtio Efa oedd dinistrio gwaith Duw. Gwelwn ôl ei waith bob dydd yn y newyddion ddaw drwy’r teledu. Ond gwelwn ei ôl hefyd yn yr ofnau sydd gennym ni wrth wynebu dyfodol ansicr.

Mae yna bethau da rydym yn eu mwynhau, ond rhywsut yng nghefn ein meddwl mae’r ofn y daw rhyw beth neu ryw un heibio a’u sbwylio. Mae popeth yn y byd hwn yn diflannu maes o law. Felly mae’r llawenydd ddaw ar fore Nadolig pan fydd y plant yn derbyn yr anrhegion roedden nhw eisiau, wedi ei dymheru gan y wybodaeth y bydd yr anrhegion hyn wedi treulio a cholli eu sglein cyn hir. Ond beth mae ymddangosiad Crist yn ei addo i ni? Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! O’i fawr drugaredd, fe barodd ef ein geni ni o’r newydd i obaith bywiol trwy atgyfodiad Iesu Grist oddi wrth y meirw, i etifeddiaeth na ellir na’i difrodi, na’i difwyno, na’i difa.  (‭1 Pedr‬ ‭1‬:‭3-4‬ BCN)

Mae yna bethau drwg sy’n peri ofn a digalondid i ni, a’r ofn mawr ydi mai’r drwg gaiff y gair olaf. Ond mae dyfodiad Iesu Grist i’n byd yn cyhoeddi na chaiff y drwg drechu. Mae yna lyn o dân wedi ei baratoi i’r diafol a’i angylion (Mathew 25:41). Er iddo ysigo sawdl “Had y wraig“, bydd hwnnw wedi ysigo pen y sarff ( Genesis 3:15). Ar y groes enillwyd y fuddugoliaeth yn llawn: Diarfogodd y tywysogaethau a’r awdurdodau, a’u gwneud yn sioe gerbron y byd yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth arnynt ar y groes. (‭Colosiaid‬ ‭2‬:‭15‬ BCN)

Mae yna bethau drwg ynom ni sy’n peri rhwystredigaeth a siom cyson i ni. Ond mae dyfodiad Emaniwel, Duw gyda ni, yn sicrwydd fod y pethau hyn i gyd yn mynd i gael eu newid. Gyfeillion annwyl, yn awr yr ydym yn blant Duw, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Yr ydym yn gwybod, pan fydd ef yn ymddangos, y byddwn yn debyg iddo, oherwydd cawn ei weld ef fel y mae. (‭1 Ioan‬ ‭3‬:‭2‬ BCN) Ac nid rhywbeth ar gyfer y dyfodol yw hyn yn unig – mae’n digwydd y funud hon wrth i’r rhai sydd wedi rhoi eu ffydd yn y Gwaredwr gael eu newid: Ac yr ydym ni i gyd, heb orchudd ar ein hwyneb, yn edrych, fel mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd ac yn cael ein trawsffurfio o ogoniant i ogoniant, yn wir lun ohono ef. A gwaith yr Arglwydd, yr Ysbryd, yw hyn. (‭2 Corinthiaid‬ ‭3‬:‭18‬ BCN)

Mae dyfodiad Crist ddwy fil o flynyddoedd yn ôl felly yn newyddion da ar gyfer yr wythnos nesaf hon. Mae’r pryder y bydd y pethau da sydd gennych yn diflannu, a’r rhwystredigaeth na ellir newid y pethau drwg sydd ynoch chi ac yn eich amgylchiadau yn bethau y mae’r Nadolig yn eu herio, oherwydd “I ddinistrio gweithredoedd y diafol yr ymddangosodd Mab Duw”.

O! Dawel ddinas Bethlehem,
Bugeiliaid heno ddaw
Dros bant a bryn at breseb syn
Oddi ar y mynydd draw:
A chwilio wnânt am faban bach
Sy’n dod yn Geidwad dyn,
Yn obaith byw i ddynol-ryw –
Y Bugail Da ei Hun.