Mynd i’r Gym

exerciseFe soniais i ddoe am ddeiet iach. Wrth gwrs nid mater o ddeiet yn unig yw byw yn iach. Ochr yn ochr â’r addunedau flwyddyn newydd am golli pwysau trwy fwyta’n well, bydd llawer yn ymuno â gym lleol. Bydd y mwyafrif ond yn mynychu’r gym am ychydig wythnosau, ond mae yna gydnabod bod rhaid cael ymarfer corff er mwyn cael gwerth a llesád o newid deiet. Er mwyn cael gwared â brasder diangen, a chryfhau’r cyhyrau, rhaid ymarfer y cyhyrau a llosgi’r brasder ymaith trwy ymarfer corfforol. (rhagor…)

Deiet wedi’r Dolig

weightloss2Mae’n siwr mai un testun trafod fydd yn dod i’r amlwg rwan, fel bob blwyddyn, fydd “mynd ar ddeiet.” Wedi’r gwledda dros yr ŵyl mi fydd pobl yn meddwl am ffyrdd o golli’r pwysau a chael gwared â’r modfeddi sydd wedi cael eu hychwanegu at ein canol gan y mins peis, y gacen Nadolig a’r siocledi. Mae bwyta’n iach yn beth synhwyrol i’w wneud, yn enwedig pan fyddwn yn clywed fod gordewdra yn un o broblemau mwyaf iechyd pobl yn y wlad hon. Wedi’r cyfan, pwy sydd am ddioddef o glefyd y galon, clefyd siwgr, neu un o’r llu o bethau y dywedir sy’n deillio o fod dros bwysau? (rhagor…)

Mae sŵn y gwynt yn chwythu

images (3)Roedd y gwynt yn hyrddio yma ym Mangor neithiwr. Dywedir fod y gwynt yn Aberdaron yn plycio ar ymhell dros gan milltir yr awr. Mae’n siwr bydd yna goed wedi disgyn a niwed ar draws y wlad. Mae’r gwynt yn gallu bod mor amrywiol – o awel dyner fin nos yn yr haf i gorwyntoedd dinistriol. Ac wrth gwrs, tyden ni ddim yn gallu ei reoli. (rhagor…)

Sbarion y Twrci

pturkey12_1204051cWel, fe aeth y diwrnod mawr heibio unwaith eto. Gobeithio i chi brofi bendith a mwynhád yn ystod y dydd. Mae’n siwr y bydd y mwyafrif ohonoch yn parháu i fwynhau cyfnod o ymlacio heddiw, os nad ydych wedi bod yn brysio i’r “Sales” bondigrybwyll. Er, i rai pobl dyna yw eu dileit – mae nhw’n cael ymlacio wrth fynd i edrych y bargeinion. I eraill, mae digon o’r twrci ar ôl, ac amser i ymlacio ac edrych yn fwy hamddenol ar yr anrhegion. (rhagor…)

Nadolig Llawen

9186567-illustration-of-traditional-christian-christmas-nativity-sceneMae’r dydd mawr wedi cyrraedd. Bydd y plant wedi bod yn agor eu hanrhegion, a’r rhan fwyaf ohonom yn cael diwrnod i ddathlu. Mae llawer o fwynhad i’w brofi yn y dathliadau. Ond y tu cefn i’r cyfan fe ddylem ryfeddu yn gyson am i Dduw ein caru, a danfon ei Fab er ein mwyn. Fel y gwnes y llynedd, dyma gyflwyno cerdd a ysgrifenais ychydig flynyddoedd yn ol. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xiii

self-help-600tUn o’r teitlau roddir i Iesu yn Eseia 9:6 yw “Cynghorwr rhyfeddol”. Mae hyn yn ymddangos yn nodwedd hynod o berthnasol i’n hoes ni. Rydym yn byw ar adeg lle mae cymaint o gwestiynau yn ein wynebu – mae technoleg newydd wedi rhoi’r gallu i ni wneud pethau na allai ein teidiau a’n neiniau ddim dychmygu fyddai’n bosib. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xxi

Ddoe, a minnau wedi mynd allan i ymweld â rhywun, roeddwn yn gwrando ar y radio yn y car. Classic FM oedd yr orsaf, a minnau’n mwynhau’r gerddoriaeth. Wrth i mi nesáu at y tŷ, dyma’r darlledwr yn cyhoeddi – mewn dau funud roedden nhw’n mynd i chwarae gurino-lightsFINALrecordiad o ryw bianydd rhyfeddol oedd newydd ymddangos – y gair ddefnyddiwyd oedd – unmissable. Wel, mi wnes i ei fethu. Erbyn mynd i mewn i’r tŷ, daeth cant a mil o bethau eraill i lenwi fy mryd, ac felly mi fethais glywed y gerddoriaeth ragorol oedd wedi ei addo. (rhagor…)

Tymor yr Adfent xx

“Dwi’n methu aros!” – Mae’n ymadrodd sydd wedi ei ddweud gan lawer o blant dros y blynyddoedd wrth feddwl am y diwrnod mawr – y diwrnod pryd y bydd Siôn Corn wedi cyrraedd a’r anrhegion yn cael eu hagor. Mae llawer mwy ohonom, er efallai na fyddem yn defnyddio’r ymadrodd, eto wedi teimlo’r un fath – efallai nid am ddydd Nadolig ond rhyw ddigwyddiad arall – y gwyliau yn dechrau, cyfarfod â rhywun, diwrnod priodas… gallwch chi feddwl am yr hyn rydych chi wedi bod yn dyheu amdano. Ond weithiau rydym yn gorfod aros – aros nes ein bod hyd yn oed yn amau os cawn ni gyrraedd y diwrnod neu’r digwyddiad. (rhagor…)