European Leadership Forum
Fforwm Ewrop 6
Daeth diwrnod y teithio. Ond nid y siwrnai oedd yr unig beth ar fy meddwl. Neithiwr, wedi’r cyfarfod olaf, aeth pump ohonom am dro i dafarn heb fod ymhell o’r gwesty lle buom yn aros. Gyda mi roedd Dau gyfaill o Ogledd Iwerddon, gweinidog ifanc o Hwngari a gŵr o Sweden sydd wedi bod yn gweinidogaethu, ond oherwydd afiechyd roedd wedi gorfod rhoi ei waith heibio dros dro. Buom yn trafod yr wythnos a sut fyddai’r hyn roeddem wedi ei brofi yn dylanwadu ar yr hyn fyddwn yn ei wneud. (rhagor…)



Fel y mae’r glaw a’r eira yn disgyn o’r nefoedd, a heb ddychwelyd yno nes dyfrhau’r ddaear, a gwneud iddi darddu a ffrwythloni, a rhoi had i’w hau a bara i’w fwyta, felly y mae fy ngair sy’n dod o’m genau; ni ddychwel ataf yn ofer, ond fe wna’r hyn a ddymunaf, a llwyddo â’m neges. (Eseia 55:10-11 BCN)
Mae’r penawdau yn y rhaglenni newyddion wedi eu hawlio eto gan y terfysgwyr. Mae’n ymddangos nad oes wythnos yn mynd heibio heb ryw sôn am bethau ofnadwy yn digwydd yn ein byd. Yr hyn sy’n ei wneud yn waeth yw pan fydd y pethau hyn yn cael eu cyflawni yn enw Duw, neu yn enw crefydd.