Adfent 2013
Tymor yr Adfent xiv
Gwelais erthygl ddoe oedd yn sôn am ficer wnaeth droseddu yn erbyn rhieni a phlant rhyw ysgol. Fe fynnodd ddweud mewn gwasanaeth boreol wrth y plant nad oedd Siôn Corn yn real, a’i fod wedi ei seilio ar hanes tybiedig Sant Nicholas, a barodd i dri plentyn oedd wedi eu mwrdro ddod yn ôl yn fyw. Tydw i ddim am wneud unrhyw sylw am ddoethineb (neu ddiffyg doethineb) dweud wrth blant 5 – 11 oed nad yw Siôn Corn yn bod. (rhagor…)
Mae’r eglwys wedi bod yn dda iawn ar adegau am gau pobl allan. Dim ond y parchus sy’n dderbyniol. Dim ond y rhai sydd wedi dod i fyny i’r safon sy’n cael dod i mewn. Mae wedi llwyddo i roi yr argraff i gymaint nad oes lle iddyn nhw yn y gymdeithas sy’n dwyn enw Iesu Grist. Mae yna rhyw eironi torcalonnus am hyn o ystyried neges y Beibl.
gwybodaeth am ddechreuadau ein sustem solar, gan gynnwys sut olwg oedd ar y sustem cyn llunio’r planedau.
ofalus, gan feddwl am y person wnaiff dderbyn y rhodd. Mae yna rhyw fwynhád arbennig os oes modd cuddio siap yr anrheg, rhag i’r un sy’n ei dderbyn fedru dyfalu beth sydd ynddo o flaen llaw. (Mae hyn ychydig yn anodd os mai beic yw’r rhodd!) Un gêm mae llawer yn ei chwarae ydi ceisio dyfalu beth sydd wedi ei guddio dan y papur sgleiniog cyn ei agor.
Roedd y môr wedi bod yn bwyta ymaith y clogwyni tywod ers blynyddoedd. Yna ar nos Iau daeth y cyfuniad o lanw uchel ag ymchwydd y tonnau yn sgîl y gwynt cryf i ysgubo’r tywod i’r môr. Mae’n debyg bod yr eironi yn fwy oherwydd fod perchnogion y tai ar y pryd mewn cyfarfod yn y dafarn leol i godi arian er mwyn adeiladu rhyw fath o amddiffynfeydd yn erbyn y tonnau.
Fe ddioddefodd gael ei garcharu am saith mlynedd ar hugain. Ond erbyn diwedd ei gyfnod yn y carchar roedd llywodraeth y wlad yn pledio am ei gyd-weithrediad. Pe byddai wedi ymateb yn wahanol gallai’r wlad fod wedi troi yn faes y gad. Ond dewisodd lwybr oedd yn gosod cymod uwchlaw chwerwedd, ac am hynny mae ei ddylanwad yn fawr. Yn sicr mae yn un o gymeriadau mawr ein hoes ni. Rhaid diolch am ei arweiniad a chryfder ei gymeriad urddasol.