stupidcriminals-home-alone-590x350Un o’r ffilmiau hynny sy’n cael eu dangos ar y teledu yn rheolaidd dros y Nadolig yw Home Alone.  Mae teulu yn mynd i ffwrdd ar wyliau gyda’i gilydd, ond mae nhw’n anghofio am Kevin sy’n cysgu’n hwyr. Mae yntau wedi ei adael gartref felly ac yn cael llawer o hwyl ac antur yn diogelu’r tŷ rhag lladron sy’n ceisio targedu tai sy’n wag dros dymor yr ŵyl. Mae’r ffilm wrth gwrs yn ffantasi llwyr, a llawer yn mwynhau ei gweld. Ond yn y cefndir mae’r ymwybyddiaeth na ddylai Kevin ddim fod wedi cael ei adael. Tyden ni ddim fod ar ein pen ein hunain.

Mae hyn yn wir am Gristnogion, a dyna pam y gwnes i awgrymu ddau ddiwrnod yn ôl fod cymdeithas y saint yn gorfod bod yn y darlun wrth feddwl am sut ryden ni yn darllen ein Beibl a chael bwyd ysbrydol iach. Dyma ymhelaethu ychydig ar hynny.

Yn gyntaf, fel y soniais, wrth ddod at ein gilydd ar gyfer gwrando pregeth neu gael astudiaeth, bydd yr un sy’n arwain wedi treulio amser yn myfyrio, gweddïo, a gweithio ar ddarparu pryd ysbrydol ar ein cyfer. Mae cael pryd wedi ei baratoi gan rhywun arall yn braf, ac yn gyfle i ni efallai weld pethau na fyddem wedi sylwi arnyn nhw yn naturiol.

Mae cyd-destun cymdeithas y saint hefyd yn gwneud gwahaniaeth i’r modd y byddwn yn gwrando. Fel ag y mae pryd teuluol yn wahanol i fwyta ar fy mhen fy hun, felly mae eistedd o dan y Gair gyda’m brodyr a chwiorydd yng Nghrist yn wahanol i eistedd gartref gyda fy Meibl ar fy mhen fy hun. Mae’r cyfan yn ein gorfodi i feddwl am sut mae’r Gair rydym yn gwrando arno yn effeithio ein bywyd fel eglwys. Mae yna gyd-wrando, a chyd-deithio ar hyd llwybr bywyd, a’r hyn rydym yn ei glywed yn esgor ar gyd-weddïo dros waith Duw yn ein plith.

Gallwn ninnau helpu hefyd, wrth fod yn gweddïo o flaen llaw ar i Dduw helpu’r pregethwr yn ei baratoi, ac i ninnau ddod gyda chalonnau disgwylgar i dderbyn yr hyn sydd ganddo i’w ddweud. Efallai mai rhyw frechdan gaws o bryd gawn ni weithiau, Dro arall bydd yn bryd llawn gyda’r cynhwysion gorau. Ond mae Duw yn siarad mewn modd arbennig pan fydd ei bobl yn ymgasglu i wrando’r Gair.

Mae yna hanes am Billy Graham, yr efengylydd enwog o’r Unol Daleithiau, yn gofyn i Ruth Bell a fyddai’n fodlon dod allan gydag ef. (Ruth ddaeth yn wraig iddo ymhen amser). Ei hateb hi oedd y byddai’n fodlon dod, ond nid ar nos Sadwrn, oherwydd ei bod yn paratoi ei hun i wrando ar Air Duw ar y diwrnod canlynol. Dyna chi agwedd anghyffredin, ond hynod o gynorthwyol. Faint o wahaniaeth fyddem yn ei weld yn ein cyfarfodydd petai mwy o bobl yn cymryd yr un agwedd tybed?