aberystwyth-promenadeMi gefais i fy magu yn Aberystwyth – tref glan y môr – ac un o bleserau pob haf oedd mynd i nofio yn y môr. Roeddem ni wrth dyfu yn hoffi herio ein gilydd weithiau, ac un o’r campau oedd cychwyn un pen o’r traeth yn ymyl yr hen orsaf heddlu, a nofio allan tu hwnt i’r creigiau, cyn troi wedyn a dychwelyd ochr arall y crigiau ger y banstand. Wn i ddim pa mor bell oedd o, ond dwi’n cofio y tro cyntaf i mi ei wneud. Roeddwn wedi blino’n llwyr erbyn cyrraedd yn ôl i’r traeth. Un o’r pethau wnaeth fy helpu ar y ffordd oedd fod yna rhywun arall yn nofio gyda mi. Felly roeddem yn annog ein gilydd i ddal ati.

Dyna chi egwyddor syml ond cynorthwyol mewn sawl maes. Cymrwch chi’r hyn rydw i wedi bod yn son amdano yn ystod y dyddiau diwethaf. Tydi dal ati i ddarllen y Gair ddim bob amser yn hawdd. Mae amgylchiadau annisgwyl yn codi, a rhai rhannau o’r Beibl yn gofyn am fwy o ddyfalbarhad i weithio drwyddyn nhw. Mae’r mwyafrif o bobl yn cael cyfnodau o deimlo rhyw sychder ysbrydol, pan na fydd y Gair mor fyw iddyn nhw ag y dylai fod. Beth am ddarllen gyda rhywun arall? Gallwch naill ai wneud hynny yn llythrennol – cyfarfod i ddarllen pennod a’i drafod. Neu yr hyn sy’n fwy ymarferol i lawer efallai yw eich bod yn cytuno pa ran i’w ddarllen ac yna yn cyfarfod yn wythnosol i drafod yr hyn sydd wedi eich taro yn yr adran.

Mae’r ddisgyblaeth yn dod yn haws, oherwydd eich bod yn gwybod y bydd eich cyfaill yn gwneud yr un peth, a’i fod yn edrych ymlaen at eich help chi i fedru deall yr adran dan sylw. Gall fod yn gyfle hefyd i rannu anghenion, trafod ein bywyd ysbrydol a chyd-weddïo.

Cyngor arall rwyf wedi ei gael yn fuddiol yw’r hyn glywais John Piper yn ei ddweud. Roedd yn sôn am yr adegau pan nad yw yn teimlo yn yr ysbryd gorau i fynd ati i ddarllen. Dywedodd ei fod yn adrodd neu weddïo pedair adnod cyn mynd ati i ddarllen – gallwch eu cofio gyda’r pedair llythyren T A U D:

Salm 119:36 Tro fy nghalon at dy farnedigaethau yn hytrach nag at elw;

Salm 119:18 Agor fy llygaid imi weld rhyfeddodau dy gyfraith.

Salm 86:11 Una fy nghalon i ofni dy enw.

Salm 90:14 Digona ni yn y bore â’th gariad, inni gael gorfoleddu a llawenhau ein holl ddyddiau.

Rhaid cael cymorth yr Ysbryd Glân i feithrin yr archwaeth am fwyd y Gair, ac mae’r pedair adnod hyn yn help i ni geisio cymorth yr Ysbryd yn ein darllen. Mae emyn Townend a Getty am dderbyn o fwyd y Gair hefyd yn anogaeth gyson i mi fod yn yr ysbryd cywir wrth droi at ddatguddiad Duw i ni:

Arglwydd, tyrd, a llefara Di
Wrth in’ geisio bara dy sanctaidd air. –
Planna’r gwir yn ein c’lonnau’n ddwfn,
Trawsnewidia ni ar dy ddelw,
Fel bod golau Crist yn llewyrchu’n glir
Yn ein cariad ni, mewn gweithredoedd ffydd;
Arglwydd tyrd, llwydda ynom ni
Dy fwriadau Di, er D’ogoniant.

Arglwydd, dysg beth yw ufudd-hau,
Gostyngeiddrwydd gwir, a pharchedig ofn
Chwilia ni, ein meddyliau cudd
Yng ngoleuni pur dy sancteiddrwydd;
O cryfha ein ffydd nes y gwelom ni
Faint dy gariad gwiw, a’th awdurdod Di.
Llwydda ’n awr D’eiriau nerthol Di
Nes y trecha’r Gwir anghrediniaeth.

Trwy Dy air adnewydda ni
I gael dirnad uchder dy fwriad;
D’eiriau gwir ers cyn bod y byd,
Fydd yn atsain drwy dragwyddoldeb.
Credu wnawn, drwy ras, D’addewidion Di;
Yn dy law, drwy ffydd felly cerddwn ni.
Dwed y gair, llwydda D’eglwys Di,
Llenwa’r ddaear oll â’th ogoniant.

Keith Getty a Stuart Townend cyf Dafydd M Job

© 2005 Thankyou Music