FireworksMae’n flwyddyn newydd. Aeth 2013 heibio, a bellach bydd yn rhaid i ni arfer gyda ysgrifennu 2014 ar ein sieciau a’n llythyrau. Wrth gwrs, ar un olwg does dim gwahaniaeth rhwng un flwyddyn â’r llall, neu un diwrnod â’r llall. Ond mae heddiw fel petai yn adeg i ni ystyried pethau unwaith eto. Rydym am ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb a welwn, ac fe fyddwn yn cofio’r flwyddyn a aeth heibio – ei digwyddiadau, boed rheini yn uchafbwyntiau neu yn ofidiau. Byddwn yn edrych at y deuddeg mis nesaf gyda’n hofnau a’n gobeithion.

Wrth i chi ystyried y pethau hyn dyma rai cwestiynau i brocio eich meddwl.

Wrth edrych yn ôl dros 2013:

Pa fendithion ydech chi yn teimlo’n arbennig o ddiolchgar amdanyn nhw?

Ym mha ffordd mae eich perthynas â Duw wedi tyfu yn ystod y flwyddyn?

Beth ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch?

Ble ydych chi’n teimlo eich bod wedi methu yn ystod y flwyddyn?

Ble ydych chi’n meddwl ydych chi wedi llwyddo yn ystod y flwyddyn?

Sut ydych chi wedi cyfrannu tuag at fywyd eich eglwys yn y deuddeg mis diwethaf?

Pwy fuodd yn help neu anogaeth i chi yn 2013?

Pa ddarn o’r Ysgrythur wnaeth siarad fwyaf gyda chi?

Wrth edrych ymlaen at 2014:

Beth hoffech chi ei gyflawni yn ystod y deuddeg mis nesaf?

Pa ddawn neu ddoniau hoffech chi i Dduw eu defnyddio i fod yn fendith i eraill?

Pwy fedrwch chi fod yn fendith iddyn nhw yn y misoedd nesaf?

Sut fedrwch chi gadw trefn ar eich bywyd ysbrydol yn ystod 2014?

Pwy ydych chi am weddïo drostyn nhw yn arbennig yn y flwyddyn hon?

Beth ydych am ei wneud gyda’ch pryderon am y dyfodol?

Pa addewidion o’r Ysgrythur fedrwch chi eu cofio wrth wynebu blwyddyn newydd?

Mae’n siwr bydd gennych chi gwestiynau y gallwch eu hychwanegu at y rhestr hon. Ond beth bynnag yw eich sefyllfa, rwy’n gweddïo bydd darllenwyr y gair hwn yn profi daioni mawr a bendith helaeth Duw wrth iddo eich arwain yn ddiogel trwy lawenydd a gofidiau y flwyddyn sy’n dod. Mae gennym Waredwr cryf, sydd wedi ennill buddugoliaeth lwyr er ein mwyn ar y groes. Mae’r flwyddyn nesaf yn ei ddwylo Ef oherwydd rhoddwyd iddo bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear (Mathew 28:18). Gallwn felly ymddiried popeth iddo.

Dyma orffen heddiw gyda geiriau’r Apostol Paul am ei obeithion ei hun:
“yr wyf yn dal i gyfrif pob peth yn golled, ar bwys rhagoriaeth y profiad o adnabod Crist Iesu fy Arglwydd, yr un y collais bob peth o’i herwydd. Yr wyf yn cyfrif y cwbl yn ysbwriel, er mwyn imi ennill Crist a’m cael ynddo ef, heb ddim cyfiawnder o’m heiddo fy hun sy’n tarddu o’r Gyfraith, ond hwnnw sydd trwy ffydd yng Nghrist, y cyfiawnder sydd o Dduw ar sail ffydd. Rwyf am ei adnabod ef, a grym ei atgyfodiad, a chymdeithas ei ddioddefiadau, wrth gael fy nghydffurfio â’i farwolaeth ef, fel y caf i rywfodd, gyrraedd yr atgyfodiad oddi wrth y meirw.” (Philipiaid 3:8-11)