Blwyddyn Newydd
Diwrnod olaf y Nadolig
Darllenwch Ioan 14:1-14
Rydw i newydd fod yn yr orsaf drenau, yn ffarwelio â Heledd wrth iddi ddychwelyd i Košice tan yr haf. Mae’r ffarwelio hyn yn digwydd yn rheolaidd bellach, a hithau ar ei phumed blwyddyn yno. Ond er fy mod yn gyfarwydd â’i gweld yn mynd, mae yna ryw elfen o chwithdod bob tro. Yr hyn sy’n pylu’r chwithdod hwnnw yw’r gobaith y caf ei gweld eto cyn bo hir wrth iddi ddod yn ôl atom yn yr haf. (rhagor…)
“Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.” (Mathew 28:20 BCN)
I ddinistrio gweithredoedd y diafol yr ymddangosodd Mab Duw. (1 Ioan 3:8 BCN)
Mae’n flwyddyn newydd. Aeth 2013 heibio, a bellach bydd yn rhaid i ni arfer gyda ysgrifennu 2014 ar ein sieciau a’n llythyrau. Wrth gwrs, ar un olwg does dim gwahaniaeth rhwng un flwyddyn â’r llall, neu un diwrnod â’r llall. Ond mae heddiw fel petai yn adeg i ni ystyried pethau unwaith eto. Rydym am ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb a welwn, ac fe fyddwn yn cofio’r flwyddyn a aeth heibio – ei digwyddiadau, boed rheini yn uchafbwyntiau neu yn ofidiau. Byddwn yn edrych at y deuddeg mis nesaf gyda’n hofnau a’n gobeithion.