Roedd cyfarfod neithiwr (nos Sul) yn heriol tu hwnt. Fel arfer mae’r cyd-ganu a chyd-weddio yn fendithiol. Cafwyd dau gyfweliad yn ystod y cyfarfod. Roedd y cyntaf gyda Bert de Ruiter, Cristion sydd wedi bod yn gweithio gyda rhai o grefydd Islam ers blynyddoedd. Y cwestiwn cyntaf a ofynnwyd iddo oedd, beth yw’r broblem fwyaf o safbwynt perthynas Cristnogion a Moslemiaid yn Ewrop ar y funud? Ei ateb oedd: Cristnogion.

Rydym yn aml yn gwrthod croesi’r stryd i siarad â hwy. Mae yna rhyw ofn yn ein parlysu, a hynny’n golygu ein bod yn cuddio ein goleuni tan lestr, yn hytrach na chymryd y cyfle. Nid oes rhaaid i ni deithio i wlad bell i gyrraedd Moslemiaid. Mae nhw ar ein strydoedd ni, a gallwn gymryd y cyfle i ddod i’w hadnabod, a chyflwyno newydd da yr efengyl iddyn nhw.

Emanuel Tundrea

Emanuel Tundrea

Yr ail berson gafodd ei ymweld oedd Emanuel Tundrea. Mae’n gweithio yn Romania, ac yn weithgar iawn yn rhannu’r efengyl. Daeth yn Gristion pan yn ifanc, a phan aeth i’r coleg cafodd fraw o weld cymaint o’i gyfoedion oedd yn colli eu ffydd a’u diniweidrwydd. Felly er mwyn cadw ei hun, fe roddodd arwydd i fyny yn dweud ei fod am gynnal cymdeithas Gristnogol yn ei ystafell. Ymunodd dau gydag ef, ac fe ofynnwyd iddo arwain y grwp, oherwydd roedd ef yn fab i weinidog, a nhw yn feibion i ddiaconiaid!! Erbyn gadael y brifysgol bum mlynedd yn ddiweddarach roedd y grwp wedi tyfu i 70 mewn nifer. O’r 70, mae’r mwyafrif llethol wedi cadw at eu ffydd. Mae wedi parhau gyda’r gwaith o greu disgyblion ers gadael coleg (mae ef bellach yn ddarlithydd mewn Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol, ochr yn ochr ag arwain eglwys ym Timisoara), a thrwy gyfrwng hwn mae perthynas tymor hir wedi ei ffurfio gydag amryw. Soniodd am fel ag y mae’r berthynas hon wedi golygu helpu priodasau oedd yn gwegian, arbed plant oedd yn mynd i gael eu herthylu, a’r plant hynny bellach yn ffrindiau yn yr ysgol gyda’i blant ei hun. Roedd hwn yn arbennig o galonogol i mi, gan i mi fod yn mentora Emanuel y tro cyntaf daeth i’r gynhadledd rai blynyddoedd yn ôl.

Y prif siaradwr yn y cyfarfod oedd Mark Stirling o’r Alban. Roedd yn son am y patrwm beiblaidd o greu disgyblion. Does dim amser yma i rannu eio neges rymus. Fe roddodd drosolwg bras o lythyr Paul at yr Effesiaid, gan ganolbwyntio ar pennod 4:11-13, gan ein herio i ystyried y modd yr ydym yn llunio ein gweinidogaeth. Roedd her arbennig i ni sy’n arweinwyr i fod yn rhai sy’n bwydo defaid Duw, nid yn bwyda ar ddefaid Duw.
Bob blwyddyn byddaf yn cael fy herio wrth dod yma, a bydd yn sialens eto i mi ystyried fy ngweinidogaeth yng ngoleuni’r hyn rwyf wedi ei glywed yma.