image“Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab, a gelwir ef Immanuel”, hynny yw, o’i gyfieithu, “Y mae Duw gyda ni”. (‭Mathew‬ ‭1‬:‭23‬ BCN)

Fyddwch chi yn edrych yn ôl weithiau? Un o nodweddion ein cymdeithas yw ein bod yn aml yn cofio ac yn dathlu fod rhyw ddigwyddiad arbennig wedi bod. Bum mlynedd ar hugain yn ôl i eleni, er enghraifft, glaniodd dyn ar y lleuad, a dywedodd Neil Armstrong y geiriau cofiadwy hynny: “One small step for man; one giant leap for mankind.

Mae gen i gof clir o’r digwyddiad, oherwydd fe arhosais i fyny gyda fy nhad i weld y cyfan ar y teledu. Roeddwn yn benderfynol o aros yn effro, a gwelwn dad yn hepian, felly roeddwn yn tybied byddai’n rhaid i mi ei ddeffro pan ddeuai’r foment fawr.

Fel ag yr oedd yn digwydd, fe syrthiais i gysgu, a phan ddaeth y lluniau rhyfeddol hynny ar y sgrîn deledu, penderfynodd dad fy mod angen cwsg – gadawodd fi’n cysgu tra gwyliai’r byd y digwyddiad hanesyddol! Bu’n rhaid i mi edrych ar recordiad y bore wedyn i weld y cyfan!

Ddwy fil o flynyddoedd yn ôl nid dyn yn ymweld â byd arall oedd y digwyddiad hanesyddol, imageond Duw yn ymweld â’n byd ni. Emaniwel – Duw gyda ni! Fe ddylai’r byd fod wedi tyrru i’r fan. Ond os oedd dyfodiad yr angylion at y bugeiliaid (oedd yn gwarchod eu praidd liw nos) yn cyd-fynd ag adeg y geni, roedd y rhan fwyaf yn cysgu tra roedd Duw yn gwneud y “giant leap for mankind“.

Mae’r newyddion mor rhyfeddol heddiw ag erioed – fe ymwelodd Duw â’n byd ni. Ond mae’r byd yn dal i gysgu. Felly mewn nifer o ysgolion fe gyfnewidiwyd hanes y geni am Winter Celebration (rhag distyrbio rhai sy’n dilyn crefyddau eraill). Yn ôl y cyfryngau rydech chi’n fwy tebyg o weld cymeriadau megis gofodwyr, Elvis Presley, neu greaduriaid o Star Wars, nag ydech chi o weld y doethion a’r bugeiliaid.

Efallai na ddylem synnu fod hyn yn digwydd – ond tydi hynny ddim yn rheswm i ni adael i’r byd gysgu. Mi fues i dipyn o amser cyn maddau i dad am adael i mi gysgu pan laniodd dyn ar y lleuad. Ond gwae ni os bydd rhai yn wynebu tragwyddoldeb heb Waredwr am i ni adael iddyn nhw gysgu!

Daeth un o gyfoeth nefoedd bur,
Drwy gariad, i wneud ei hun yn dlawd;
Ildio’i orseddfainc, goddef cur
Creawdwr y byd a ddaeth mewn cnawd;
Daeth un o gyfoeth nefoedd bur,
Drwy gariad, i wneud ei hun yn dlawd.