Adfent 2014
Tymor yr Adfent 2014, 10
“Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab, a gelwir ef Immanuel”, hynny yw, o’i gyfieithu, “Y mae Duw gyda ni”. (Mathew 1:23 BCN)
Fyddwch chi yn edrych yn ôl weithiau? Un o nodweddion ein cymdeithas yw ein bod yn aml yn cofio ac yn dathlu fod rhyw ddigwyddiad arbennig wedi bod. Bum mlynedd ar hugain yn ôl i eleni, er enghraifft, glaniodd dyn ar y lleuad, a dywedodd Neil Armstrong y geiriau cofiadwy hynny: “One small step for man; one giant leap for mankind.” (rhagor…)
Dyma ni wedi cyrraedd diwedd y gwyliau Nadolig yn ôl yr hen draddodiad. Mae’r paratoi dros dymor yr Adfent, a’r dathlu dros ddeuddeg diwrnod yn dod i ben heddiw. Yfory bydd llawer yn tynnu’r addurniadau i lawr, a bydd bywyd yn dychwelyd i normalrwydd mis Ionawr. Bydd y plant yn dychwelyd i’r ysgolion, y myfyrwyr i’r colegau a phawb arall i’w gorchwylion a’u gwaith. Bywyd normal, cyfarwydd wrth i ni gerdded llwybr bywyd trwy flwyddyn arall.