imageDarllenwch Genesis 3:14-15; a Hebreaid 2:14-18

Un o’r gorchwylion cyntaf wrth i blentyn gael ei eni yw dewis enw iddo. Mae pob math o resymau yn gallu bod ym meddyliau’r rhieni wrth wneud eu dewis – gall fod oherwydd eu bod yn hoffi sŵn yr enw. Yn aml bydd y plentyn yn cael ei enwi ar ôl rhywun – a gobaith y rhieni yw y bydd yn dod yn debyg i’r person hwnnw mewn rhyw ffordd – bydd yn “byw i fyny i’r enw” chwedl y Sais.

Mae Un person sydd wedi byw i fyny i’w enw mewn modd rhagorol – ac fe gafodd y person hwnnw nifer o enwau – sef y baban a anwyd ym Methlehem. Yr wythnos hon rwyf am edrych ar rai o’r enwau hynny.

Efallai mai’r cyntaf o’r enwau a gawn yn y Beibl amdano yw “Had y wraig”. Yn Genesis 3 fe gawn hanes trist y sarff yn twyllo Efa, a hithau ac Adda yn troi oddi wrth Dduw i ddilyn eu llwybr eu hunain. Ond er mor drist yw’r hanes – hanes sy’n egluro cyflwr digalon ein byd am fod pechod wedi dod i mewn i fywyd dyn – eto nid hanes heb obaith ydyw. Cyn danfon Adda ac Efa allan o ardd Eden fe ddywedwyd y byddai plentyn yn dod fyddai’n dial y cam ar Satan, ac yn concro.

Nid Superman fyddai hwn, ond un ohonom ni. Nid angel ond aelod o’r ddynol ryw – dyn fyddai’n gyfarwydd â gwendid. Ac ym Methlehem fe anwyd un a dyfodd yng nghroth Mair – had y wraig. Fe’i hamgylchwyd â gwendid bywyd dynol, gan ddechrau ei oes fel un yn ffoi am ei fywyd o diriogaeth Herod gyda’i rieni. Person o gig a gwaed oedd hwn, fel yr addawodd Duw yng nghlyw ein rhieni cyntaf.

‘‘Gan ein bod ni’r “plant” yn bobl o gig a gwaed, daeth Iesu’n berson o gig a gwaed yn union yr un fath. Dyna sut roedd yn gallu marw i ddwyn y grym oddi ar yr un sy’n dal grym marwolaeth – hynny ydy, y diafol. Mae Iesu wedi gollwng pobl yn rhydd fel bod dim rhaid iddyn nhw ofni marw bellach.’ Hebreaid‬ ‭2:14-15‬ ‭BNET‬‬

Ffordd a drefnwyd cyn bod amser
I gael dihangfa o ddrygau’r ddraig;
Mewn addewid gynt yn Eden
Fe gyhoeddwyd Had y wraig;
Ffordd i gyfiawnhau’r annuwiol,
Ffordd i godi’r meirw’n fyw;
Ffordd gyfreithlon i droseddwyr
I hedd a ffafor gyda Duw