imageDarllenwch Mathew 1:18-23

Yr wythnos hon gwelwyd dangosiad cyntaf y ffilm ddiweddaraf yng nghyfres Star Wars. Dyma gyfres sydd wedi dal dychymyg cenedlaethau o blant (a rhai hŷn!). Mae pobl yn hoffi stori dda, a cheir llawer o elfennau sy’n tynnu’r gwylwyr i mewn – yn enwedig y syniad o elyn y mae angen ei wynebu, a da yn goroesi yn erbyn y drwg. Ond wrth gwrs, stori ydi hi – ffrwyth dychymyg George Lucas ac eraill. Nid hanes go iawn mohono. Tydi Luke Skywalker a Princess Leila ddim yn bobl go iawn.

Mae llawer wrth gwrs yn gosod hanes y Nadolig yn yr un cwch – rhyw stori gyda mytholeg wedi ei chreu o’i amgylch. Ond gadewch i ni aros am funud i ystyried rhai elfennau o stori Iesu. Tydw i ddim am fynd ar ôl y sail hanesyddol i’r cyfan – dim ond dweud yma ein bod yn delio gyda phobl go iawn yn ein byd real. Ond yr enw roddwyd i’r baban oed Iesu – enw sydd o’r un gwraidd â Josua, ac sy’n golygu Gwaredwr. Fe ddywedodd angel yr Arglwydd wrth Joseff ‘Bydd yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau.” (Mathew‬ ‭1:21‬ ‭BCN‬‬)

Nid wyf yn arbenigwr ar y gyfres ffilmiau, ond yn y stori mae yna rym amhersonol yn sylfaenol yn y bydysawd (sy’n esgor ar y dywediad “May the Force be with you“). Gellir meithrin ochr olau’r grym hwn, neu, fel Darth Vader ac eraill troir at ochr dywyll y grym. Ond yn nealltwriaeth Cristnogaeth nid grym amhersonol niwtral sydd y tu ôl i bob dim ond Duw personol cwbl dda. Daw drygioni i’n byd nid trwy feithrin ochr dywyll y grym, ond trwy wrthryfel yn erbyn ein Crëwr. Felly nid allan yn y gofod mae’r gelyn, ond yn ein calonnau ni. Yn fy nghalon i rwy’n dod o hyd i hunanoldeb, difaterwch, trachwant, hunan-dosturi.

Cymrodd Iesu ei enw o ddifrif – fe wnaeth yr hyn oedd ei angen i’n hachub er ei fod yn golygu dwyn ein pechodau yn ei gorff ei hun ar y groes. Dyna pam fod Iesu yn Waredwr llawer mwy credadwy na Luke Skywalker.

Dyma’r Un – Had y Wraig, y Duw Cadarn, y Gair tragwyddol, Emaniwel, Iesu – fuodd fyw i fyny i’w enw, ac sy’n galw o hyd y Nadolig hwn i bobl edifarhau a chredu ynddo. A dyna pam fod dymuniad Paul wrtth iddo ysgrifennu at Gristnogion Thesalonica gymaint gwell na “May the Force be with you”. Ei gyfarchiad ef oedd ‘Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi!’ (‭‭1 Thesaloniaid‬ ‭5:28‬ ‭BCN‬‬) Dyna rywbeth gwerth ei ddweud wrth rywun heddiw!