Tymor yr Adfent 17

imageDarllenwch Mathew 1:18-23

Yr wythnos hon gwelwyd dangosiad cyntaf y ffilm ddiweddaraf yng nghyfres Star Wars. Dyma gyfres sydd wedi dal dychymyg cenedlaethau o blant (a rhai hŷn!). Mae pobl yn hoffi stori dda, a cheir llawer o elfennau sy’n tynnu’r gwylwyr i mewn – yn enwedig y syniad o elyn y mae angen ei wynebu, a da yn goroesi yn erbyn y drwg. Ond wrth gwrs, stori ydi hi – ffrwyth dychymyg George Lucas ac eraill. Nid hanes go iawn mohono. Tydi Luke Skywalker a Princess Leila ddim yn bobl go iawn. (rhagor…)

Cyfres Newydd

Gyda thymor y Nadolig drosodd daeth y gyfres o ddefosiynau dyddiol i ben. Gobeithio i chi gael y myfyrdodau yn gymorth wrth ddathlu. Byddaf allan o gyrraedd y we am y cwpl o ddyddiau nesaf, felly ni ddaw cyfle i ddiweddaru’r blog yn ddyddiol. Ond gobeithio cyn diwedd yr wythnos y byddaf yn gallu ail afael yn yr ysgrifennu.

Question-MarkYn y gyfres nesaf y bwriad fydd holi’r cwestiwn: Pam ydw i’n Gristion? Mewn cyfnod pryd mae llawer iawn o’m cyfoedion wedi cefnu ar yr hen draddodiad crefyddol, a’r gair “efengylaidd” yn arbennig yn dwyn cymaint o oblygiadau negyddol ym meddwl llawer o fy nghyd-Gymry, beth sy’n gwneud i mi fod yn hapus i arddel neges y Beibl? (rhagor…)

Llawenháu yn yr Anrheg

images (5)Sut mae’r anrhegion erbyn hyn? Gobeithio eu bod yn dal i blesio, ond wythnos wedi’r Nadolig efallai fod yr excitement wedi lleihau bellach. Bydd rhieni yn ddiolchgar fod ambell i degan wedi tawelu am fod y batri wedi mynd yn fflat. Bydd ambell i anrheg efallai wedi torri. Mae’n siwr fod nifer ohonyn nhw yn dal i ddod â phleser mawr, ond bydd ambell un arall wedi cael ei roi o’r neilltu a rhai o’r hen deganau wedi cael dod allan erbyn hyn. Mae rhai o’r trimmings Nadolig yn edrych ychydig yn hen, nodwyddau’n disgyn oddi ar y goeden, a’r twrci gobeithio wedi hen ddiflannu. Dyna sut y dylai fod ar un olwg. (rhagor…)