“What the world needs now is love, sweet love; that’s the only thing that we’ve got too little of”. Geiriau sy’n mynd a mi yn ôl i’r chwedegau, ac sy’n datgan agwedd llawer o bobl ynglŷn â’r hyn sydd o’i le ar ein byd. Pe byddai pobl ond yn dysgu sut i garu ei gilydd yn well, mi fyddai pob dim yn dod i’w le. Mwy o gariad a llai o gasineb yw’r ateb.

Yn wir dyma ddadl amryw efo Duw – “Duw cariad yw” oedd yr adnod gyntaf honno i ni gael ei dysgu yn yr Ysgol Sul. Sut all Duw felly ganiatau i gymaint o ddioddef a chasineb ddigwydd yn ein byd? Yr awgrym yw na tydi Duw ddim yn caru ddigon. Os ydi o’n bod o gwbl, yna problem y byd yw nad yw’n caru digon.

Ond er fod caru a chasáu yn cael eu gosod fel gelynion i’w gilydd yn gyffredinol, mae nhw weithiau yn gyfeillion sy’n mynd law yn llaw â’i gilydd.

Er enghraifft, os ydw i’n caru fy ngwraig, yna rwy’n casáu unrhyw beth sy’n dod rhyngof fi â hi. Os ydw i’n caru fy mhlant, yna mi fydda i’n casáu yr hyn sy’n eu niweidio nhw – fel paedoffilia. Dwy ochr yr un geiniog yw cariad a chasineb yn yr enghreifftiau hyn.

Nid problem y byd yw fod cariad Duw yn ddiffygiol mewn rhyw ffordd. Problem y byd yw fod Duw yn dda. Mae’n caru cyfiawnder ac yn casáu anghyfiawnder. Tydi o ddim yn barod i ddweud ’sdim ots am y drwg sydd yn y byd. Mae’n gosod ei hun yn erbyn gwrthryfel dynoliaeth, ac mae hyn yn golygu ei fod yn gosod ei hun yn erbyn fy nrygioni fi.

Pa gariad all guddio’r balchder, yr hunanoldeb, y trachwant a’r difaterwch sydd yn fy nghalon i? A dyma lle mae angen edrych ar sut mae Duw yn caru. Yn yr un llythyr â’r adnod enwog honno “Duw cariad yw” mae Ioan yn dweud wrthym sut yr ydym i adnabod y cariad hwn –   “Yn hyn y dangoswyd cariad Duw tuag atom: bod Duw wedi anfon ei unig Fab i’r byd er mwyn i ni gael byw drwyddo ef.” (1 Ioan 4:9 Beibl Cymraeg Newydd)  Mae’n mynd ymlaen yn yr adnod nesaf i ddweud: Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni’n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac wedi anfon ei Fab i fod yn Iawn dros ein pechodau.

Dyna pam fod digwyddiadau croeshoelio ac atgyfodi Iesu o Nasareth yn ganolog yn neges y Beibl. Dyna pam fod cyfnod y grawys wedi ei osod o’r neilltu yn nhraddodiad yr eglwys – cyfnod nid yn gymaint i wneud heb fwyd o fath arbennig, ond cyfnod i feddwl am, ac i baratoi i ddathlu’r hyn wnaeth Iesu drosom adeg by Pasg.

Be mae’r byd ei angen? Mae digon o gariad yma wedi ei ddangos ar groes Crist. Ymateb i’r cariad hwn sydd ei angen.

Categories: Uncategorized

0 Comments

Gadael Ymateb

Avatar placeholder