Wythnos yn ôl roeddwn i ymhell o’m cartref yn ceisio cynorthwyo Cristnogion yn Serbia a Montenegro. Fe gewch ychydig o’r hanes yma, gan obeithio y bydd yn anogaeth i chi feddwl a gweddïo dros rai mewn sefyllfa wahanol i ni.

Wedi taith rwystredig i Belgrad ar ddydd Llun (Oherwydd gwyntoedd croes yn y maes awyr colli cysylltiad yn Zurich a chael fy nargyfeirio i Munich; colli cysylltiad yn y fan honno hefyd ac yn y diwedd cyrraedd Belgrad am 9.00 y nos yn lle 2.30) croesawyd fi gan Samuil Petrovski. Arweinydd gwaith EUS (sy’n cyfateb i UCCF yn ein gwlad ni) yn yr ardal. Mae’n ddyn yn ei dridegau, yn briod gydag un ferch fach, a’i wraig yn feddyg. Mae’n hoffi gwneud cysylltiadau ac yn frwd yn ei awydd i weld rhai’n dod i gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist.

Yn gynnar fore Mawrth dyma hedfan i lawr i Montenegro. Mae hon yn wlad fechan fynyddig gyda phoblogaeth o 700,000 o bobl. Mae’r cefndir ethnig yn gymysg, fel cymaint o wledydd y Balcan. Ond mae gan y wlad ei phobl ei hun – mae safle a daearyddiaeth y wlad yn ei gwneud hi’n anodd iawn ei choncro . Pobl dal, gryf wedi arfer byw yn y mynyddoedd yw nifer ohonynt. Mae’n wlad dlawd iawn, gyda llygredd gwleidyddol yn ymylu ar fod y gwaethaf yn Ewrop. Yn grefyddol, byddai’r mwyafrif yn dweud eu bod yn credu mewn Duw. Ond mae eu Cristnogaeth yn ymddangos yn llawn ofergoel, ac ymhell iawn o fod yr hyn a welwn yn y Testament Newydd. I’r rhan fwyaf does gan Gristnogaeth ddim i’w wneud â bywyd, a fyddan nhw byth yn mynd i eglwys. Mae eraill sy’n mynd i’r Eglwysi Uniongred er mwyn cusanu’r eiconau sy’n eu haddurno. Ond rhyw fath o geisio lwc dda yw hyn iddyn nhw. Mae yna greiriau yn rhai o’r eglwysi – mewn un er enghraifft mae llaw dde Ioan Fedyddiwr mewn cist (heblaw am un bys, a roddwyd i’r Pab rhyw dro!). Mae bendith arbennig, medden nhw, o edrych ar y grair hon.

Fodd bynnag mae yna ychydig y byddem yn eu hadnabod fel credinwyr yn ystyr y Testament Newydd. Mae tair eglwys yn y wlad, ynghyd ag un neu ddau o grwpiau sy’n cyfarfod i astudio’r Beibl. Roedd y rhai gwrddais i yn amcangyfrif bod tua 150 o gredinwyr yn y wlad i gyd.

Niksic

Dyma ail ddinas y wlad. Mae’n ddinas fawr, ond gyda’i chanol yn eithaf cryno gyda lle i bobl ifanc ymgynnull i fwynhau yn y bariau coffi a’r tafarnau. Mae eglwys yma, yn cael ei harwain gan Stan Surbatovich. Fe’i ganwyd yn yr Unol Daleithiau, ond mae ei rieni o Montenegro, felly fe’i magwyd yn siarad yr iaith. Symudodd ef a’i deulu yma tua 15 mlynedd yn ôl i genhadu i’r bobl.

Mae dau weithiwr yn gweithio ochr yn ochr ag ef. Mae Peter yn Sais sy’n cynnal ei hun trwy ddysgu Saesneg yn y Brifysgol. Mae’n defnyddio hyn i ddod ochr yn ochr â myfyrwyr, ac un o’r cyfryngau efengylu sydd ganddo yw clwb ymarfer Saesneg. Daw amryw yno, ac fe gânt glywed yr efengyl.

Un arall sy’n gweithio yma yw Daniel. Mae’n Serb, ac wedi dod yma dan nawdd mudiad EUS ac IFES. Mae’n gweithio felly ymysg myfyrwyr, ac ar Nos Fawrth roedd ef a Peter wedi trefnu cyfarfod mewn caffi lle roeddwn i’n siarad ar y testun “A yw Gwyddoniaeth wedi gwrthbrofi bodolaeth Duw?” Roedd tua pump-ar-hugain yn y cyfarfod ac fe gafwyd trafodaeth frwd wedi i mi siarad.

Cyn hyn roeddwn wedi cael fy ngwahodd i ginio gyda Stan, Samuil, Daniel a Nicola. Mae Nicola yn rhedeg cwmni sy’n allforio coed o’r wlad. Fe dreuliodd amser yn yr Unol Daleithiau, a thra bu yno daeth i gysylltiad â Christnogion. Pan ddaeth yn ôl i Montenegro doedd ganddo ddim syniad fod yna rai oedd yn cymryd y Beibl o ddifrif yn ei wlad ei hun. Doedd yr Eglwys Uniongred ddim yn cynnig unrhyw beth iddo. Ond daeth ar draws Samuil mewn rhyw ddigwyddiad swyddogol, a phan welodd fod gan hwnnw Feibl dywedodd ei fod yntau yn credu’r llyfr hwn. Soniodd Samuil wrtho am Stan a’r Cristnogion eraill yn Niksic. Y cinio yma oedd ffrwyth y cyfarfyddiad hwnnw 

Ei gyfyng-gyngor fel dyn busnes yw’r llygredd diddiwedd yn y wlad. Er mwyn ennill contract, neu er mwyn cael rhai i weithio, mae’n rhaid llwgrwobrwyo. Ddaw yna ddim byd heb roi cildwrn i sawl un. Sut mae rhedeg busnes yn onest yn y fath awyrgylch? Wedi’r cinio aeth Samuil, Daniel, Nicola a finnau i weld llyn hardd y tu allan i’r dref, ac ar lan y llyn gofynnodd Samuil i mi weddïo dros Nicola. Cafwyd amser arbennig o gymdeithas, a phwy a ŵyr beth fydd ffrwyth yr amser hwn.

Categories: Uncategorized

0 Comments

Gadael Ymateb

Avatar placeholder