Mae diwrnod yr addunedau mawr yma unwaith eto. Mae’r cyntaf o Ionawr wedi cyrraedd. Mae 2012 drosodd a bydd rhaid arfer gyda rhoi 2013 ar llythyrau, sieciau a ffurflenni. Dwi’n siwr bydd llawer yn gwneud rhyw addunedau am golli pwysau, neu rhoi heibio ysmygu, neu wneud mwy o ymarfer corff.

Ac efallai bydd yna Gristnogion yn gwneud addunedau hefyd – i fod yn fwy cyson yn darllen eu Beibl eleni, neu yn gwneud yn siwr eu bod yn cael amser arwahán bob dydd i weddïo a myfyrio. Efallai mai eich adduned fydd i siarad efo mwy o bobl am Iesu Grist.

Wrth gwrs, mae dechrau blwyddyn yn amser da i feddwl am ddechrau newydd. Ond anhawster llawer yw fod yr adduned yn anodd ei chadw. O fewn ychydig wythnosau, neu hyd yn oed ychydig o ddyddiau mae’r hen drefn wedi gafael ynom, a does dim byd wedi newid. Yna mewn blwyddyn mi fyddwn ni’n gwneud yr un addunedau, gyda’r un bwriadau da y tu ôl iddyn nhw unwaith eto.

Peidiwch a meddwl mai ceisio eich digalonni ydw i. I’r gwrthwyneb, fy mwriad ydi eich cyfeirio at y calondid mawr sydd gennym: Mae yna Un sydd ddim yn torri ei addewidion na’i addunedau. Mae’r Arglwydd Iesu yn un o’n plaid ni. Dyma yw Immanuel – Duw gyda ni. Fe’i ganwyd am iddo wneud cyfamod â’r Tad yn nhragwyddoldeb i ddod i’n hachub. Roedd ganddo fwy na bwriadau da. Roedd ganddo’r gallu i gyflawni. Fe ddaeth, ac fe fu fyw bywyd perffaith er ein mwyn, ac yna talu’r pris llawn am ein beiau ar y groes. Yno fe roddodd y floedd fuddugoliaethus “Gorffennwyd”. Yna esgynodd i’r nef lle mae’n byw bob amser i eiriol drosom. Ac mae’n addo y bydd pawb sy’n credu ynddo yn cael eu dwyn ganddo trwy farwolaeth i fywyd.

Ond beth am pan fyddwn ni yn methu yn ein haddunedau i’w ddilyn? Darllenwch bennod 21 o efengyl Ioan. Yno mae’r Crist atgyfodedig yn cwrdd â Pedr – Pedr oedd mor frwd yn addunedu y byddai’n barod i farw gyda Iesu (Ioan 13:37), ond o fewn ychydig amser yn methu cadw ei adduned, gan wadu ei Arglwydd.(Ioan 18:15 – 27). Ym mhennod 21 mae’r Gwaredwr yn ei wynebu’n dyner gyda’i wadiad, ond nid er mwyn edliw iddo. Yn hytrach mae’n rhoi cyfle newydd iddo – cyfle lle bydd yn gwybod fod Iesu ei hun yno i’w nerthu. Felly mae hi o hyd ar y rhai ohonom sy’n ymddiried, nid yn ein cryfder ni i gadw adunedau, ond ei gryfder Ef i’n cadw er ei fwyn ei hunan.

Blwyddyn newydd dda a bendithiol i chi gyd.