Wrth i ni nesáu at ddiwedd deuddeg diwrnod y Nadolig, gyda’r addurniadau’n cael eu cadw, y gacen wedi diflannu, yr anrhegion wedi colli ychydig o’u sglein a’r drefn arferol yn ail-gychwyn yn ein bywyd, yden ni hefyd yn anghofio’r hyn ddigwyddodd ym Methlehem? Neu oes yna ganlyniadau i’w gweld yn ein bywyd sy’n mynd i barháu i’r misoedd nesaf?

Yn agos at ddiwedd ei amser ar y ddaear, wedi’r croeshoelio, y claddu a’r atgyfodiad fe gyfeiriodd Iesu at yr adeg hwnnw pan ddaeth i’n byd: “Fel y mae’r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi.” (Ioan 20:21) Yn ogystal â dod fel Gwaredwr i ni, fe osododd Iesu batrwm i’w ddisgyblion yn ei ymgnawdoliad. Mae cofio geni Iesu yn lwyfan i’n danfon ni allan fel ei ddilynwyr.

Fe anfonodd y Tad ei Fab i’r byd – nid i rhyw awyrgylch sanctaidd, wedi ei amddiffyn rhag yr hyn oedd yma, ond i’n byd real ni. Fe’i ganwyd yn nyddiau’r Brenin Herod (Mathew 2:1). Fe’i ganwyd heb le yn y llety (Luc 2:7). Treuliodd flynyddoedd cyntaf ei oes fel ffoadur (Mathew 2:14,15). Treuliodd ddeng mlynedd ar hugain cyntaf ei oes yn ddi-nod mewn pentref bach di-sylw. Pan aeth ati i gyflawni ei waith mawr, ochr yn ochr â llawenydd a chyfeillgarwch y disgyblion, fe brofodd wrthodiad, brad ac unigrwydd. Yn y diwedd profodd anghyfiawnder eithafol yn unig ar y groes. Felly yr anfonodd y Tad ei Fab.

Yn yr un modd mae Crist yn ein hanfon ni i fyw yn y byd go iawn. Mae’n ein galw i gymysgu gyda rhai sy’n wahanol i ni, yn anghytuno â ni a hyd yn oed yn ein gwrthwynebu ni. Nid cuddio yn ein cymdeithas Gristnogol glyd ydym i wneud ond mentro allan i’r byd.

Fe anfonodd y Tad Iesu gyda neges. Nid ar hap dewisodd Ioan sôn am y Mab fel y Gair a ddaeth yn gnawd. Mae’n wir fod y gair groeg logos yn golygu mwy na geiriau, ond mae yn golygu o leiaf hynny. Pan weddïodd Iesu ar ei Dad dywedodd: “Yr wyf wedi amlygu dy enw i’r rhai a roddaist imi allan o’r byd. Eiddot ti oeddent, ac fe’u rhoddaist i mi. Y maent wedi cadw dy air di…… Oherwydd yr wyf wedi rhoi iddynt hwy y geiriau a roddaist ti i mi, a hwythau wedi eu derbyn, a chanfod mewn gwirionedd mai oddi wrthyt ti y deuthum, a chredu mai ti a’m hanfonodd i. (Ioan 17:6,8). Roedd yn datguddio Duw trwy ei eiriau. Felly y danfonodd y Tad ei Fab i’n byd.

Rydym wedi clywed llawer am fod ein gweithredoedd gerbron y byd yn cyfrif yn fwy na’n geiriau. Yn sicr os nad yw ein bywyd yn cyd-fynd â’n cred yna mae rhywbeth mawr o’i le. Fel y dywed Iago yn ei lythyr mae ffydd heb weithredoedd yn farw. Ond tydi efengyl Iesu Grist ddim yn dod mewn gweithredoedd yn unig. Roedd Iesu ei hun yn credu fod yn rhaid iddo ddefnyddio geiriau. Fe ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd yn pregethu.

Yn yr un modd mae Iesu yn ein danfon ni i’r byd gyda neges i’w dweud. Bydd rhai yn wir yn “bregethwyr”, ond bydd galw ar bob Cristion i fod yn dyst – i ddweud beth mae Duw wedi ei wneud drosom ni. Bydd galw ar eraill i fod yn barod bob amser i roi ateb i bob un fydd yn ceisio gennych gyfrif am y gobaith sydd ynoch. (1 Pedr 3:15) Mae angen i ni wybod sut i siarad gyda’n hoes ni am efengyl di-gyfnewid Duw. Cawn feddwl eto am hynny.

Fory fe soniaf am ffyrdd eraill mae ymgnawdoliad Iesu yn batrwm ar ein cyfer.