Mae gwaith yr efengyl yn aml yn gyfuniad o bethau gwych a phethau sy’n peri rhwystredigaeth. Dydd Llun roedd pob dim fel petai yn cymryd dwy waith gymaint o amser ag y dylai. Roeddem yn hwyr yn gadael Tirana oherwydd fod Zef angen gwneud pethau. Wedi taith ddiddorol dros y mynyddoedd ar hyd lonydd sy’n codi brawiau ar y dewraf o yrrwyr, dyma gyrraedd Elbasan, a chyn pen dim roedd Zef ar goll yn crwydro strydoedd cefn y ddinas. Dyma ddinas gyda llaw sydd ag enw am fod yn un o’r llefydd garwaf yn Albania.

Wedi cyrraedd y capel yn ymyl y brifysgol lle mae’r Undeb Cristnogol yn canoli eu gwaith, doedd dim llawer o drefn i’w weld. Cefais gwrdd ag amryw o fyfyrwyr, heb fedru cofio enwau llawer ohonyn nhw. Wedyn doedd dim byd i’w wneud ond eistedd i lawr tra roedd pawb arall yn siarad pymtheg i’r dwsin yn eu hiaith eu hunain. Dechreuais siarad gydag ambell un. Roedd un hogyn yn astudio saesneg. Ei obaith, rwy’n amau, oedd gallu defnyddio’r iaith i adael y wlad a chael swydd well rhywle arall. Ond dechreusom son am ei ffydd. Daeth yn Gristion tua blwyddyn yn ôl yn y brifysgol. Doedd hyn ddim yn beth naturiol iddo, gan ei fod yn dod o gefndir mwslemaidd. Er nad oedd ei deulu yn cymryd eu crefydd o ddifrif mewn unrhyw ffordd, roedd y ffaith iddo ddweud ei fod yn dod yn Griston yn ymddangos iddyn nhw fel brad.

Cawsom ein cymryd i’r gwesty lle rydym yn aros, a chael awr i orffwys ac ymolchi. Wedyn dyma ddychwelyd at y myfyrwyr erbyn pum, pryd roedd y prif gyfarfod yn digwydd.
Dechreusant yn hwyr, a roedd tua 35 o fyfyrwyr yn bresennol. Roedd ganddynt ŵr ifanc sy’n cynnal cyngherddau i ganu a chyflwyno’r efengyl yn arwain i ddechrau. Ei fwriad oedd ceisio ysbrydoli’r Undeb Cristnogol i fynd ati yn frwd yn yr wythnos, a gwnaeth hynny trwy arwain pawb i ganu nifer o ganeuon Cristnogol, a siarad am yr efengyl.
Wedyn gofynwyd i mi godi i siarad. Roeddwn yn sôn am y ffaith fod pobl mor wahanol ar un olwg, ac eto ein bod i gyd yn ceisio rhywbeth. Mae yna rhyw hiraeth yn ein calon ammrhyw obaith, fydd yn troi ein bywydau yn well. Gall fod yn beth mor syml â chael yr iPhone diweddaraf (peth pwysig i fyfyrwyr Albania). Ond mae hynny’n adlewyrchiad o hiraeth am rhywbeth mwy. Wrth gyfeirio at ddameg yr amaethwr cyfoethog (Luc 12:13ff) a’r gŵr ifanc goludog (Luc 18). Trysor sy’n para sydd ei angen, ac Iesu Grist yw hwnnw.
Mae’n debyg fod tua 10 o’r myfyrwyr yn anghredinwyr, a’r trefnwyr yn ddiolchgar am y Gair. Wedi swper gyda’n gilydd, trefnwyd mynd i ganolfan chwaraeon i chwarae pêl droed, tennis a phêl volley. Roedd mwy o anghredinwyr yn ymuno erbyn hyn, a’r gobaith yw y byddant yn dod i’r cyfarfodydd yn y dyddiau nesaf.

Tîm Myfyrwyr ElbasanBore dydd Mawrth aeth y myfyrwyr i rannu gwahoddiadau yn y coleg, a chafwyd nifer o sgyrsiau diddorol mae’n debyg. Ddiwedd y bore aethom i gyd am dro o gwmpas yr hen ddinas. Mae ei hanes yn hen, gyda chastell yn cael ei adeiladu yma gyntaf gan y Rhufeiniaid ar y Via Egnatia sy’n pasio drwy’r lle. (Bu’r Apostol Paul ar hyd hon.) Dyma lun rhai o’r tîm.

Thema fy sgwrs heddiw oedd Chwilio am y gwirionedd. Mae gwyddoniaeth yn dda iawn am roi ateb i rai cwestiynau. Mae’n dda iawn am egluro sut mae pethau’n gweithio. Ond tydi o ddim cystal am ateb y cwestiwn Pam? Pam yden ni yma a beth ydi pwrpas bywyd? I gael ateb iawn dylem edrych am ffynhonell ddibynadwy. Pwy fedrwn ni eu trystio? 2000 o flynyddoedd yn ôl fe ymddangosodd rhywn yn ein byd a ddangosodd ei fod yn gwbl ddibynadwy – Iesu o Nasareth. Nid oedd ei elynion hyd yn oed yn gallu darganfod bai ynddo. Ac fe ddywedodd ef wrthym mai ynddo ef y mae dod o hyd i ystyr bywyd, maddeuant ac adnabyddiaeth o Dduw.