Mae pobl sy’n ymweld ag Albania yn cwyno m amryw bethau. Un ydi cyflwr y ffyrdd, sy’n llawn tyllau (er fod hwnnw yn gwellla). Peth arall yw cyflwr y gyrru (sy’n gwella dim. Ddoe fe deithiais yn ôl dros y mynyddoedd mewn bws mini oedd fod yn cario 8 o deithwyr. Roedd deuddeg ohonom ynddo, a thrwy drugaredd roedd y ffenestri wedi stemio, fel nad oeddwn yn gallu gweld y dibyn wrth ochr y lôn mewn mannau. Doedd neb yn gwisgo gwregys diogelwch, a’r gyrrwr yn treulio hanner yr amser ar ei ffôn symudol). Peth mae llawer yn sôn amdano yw’r llygredd yn y llywodraeth a byd busnes (O ystyried y modd mae llywodraethau’r Gorllewin a’r banciau wedi bod yn ymddwyn, efallai dylem ddweud fod angen ci glân i gyfarth). Ond mae un peth wedi bod yn rhwystredigaeth arbennig i mi yn ystod fy nghyfnod yma.

Fy mwriad wrth ddo yma oedd i ddweud wrth bobl am Iesu Grist. Rwyf yma i gynorthwyo’r Cristnogion yn eu cenhadaeth i fyfyrwyr, i Fwslemiaid, i atheistiaid. Ond does dim modd i mi gyfathrebu gyda’r rhan fwyaf o bobl yma. Mae angen rhywun i gyfieithu’r hyn rwyf yn ei ddweud i iaith fyddan nhw yn ei ddeall. Mae hynny’n digwydd yn y cyfarfodydd lle rwyf yn siarad, ac rwyf wedi gallu cael ambell i sgwrs gyda rhai sy’n medru’r Saesneg. Ond rwyf wedi gorfod bodloni ar oriau bob dydd o fod yn fy myd bach fy hunan, tra bod pobl o’m cwmpas yn siarad â’i gilydd pymtheg i’r dwsin.

Peidiwch â’m cam-ddeall. Fi fyddai’r olaf i warafun i bobl albania yr hawl i’w hiaith eu hunain. Ond mae’r anallu i gyfathrebu wedi gwneud i mi ystyried nifer o bethau. Yn gyntaf, bwth wyf i’w wneud pan fyddaf heb neb i siarad â hwy? Rwyf wedi cael amser i weddïo dros y bobl yma, a’r teulu, ffrinidau ac eglwys yn ôl gartref yng Nghymru. Rwyf wedi cael amser i ddarllen ac ysgrifennu, a myfyrio’n dawel.

Yn ail, pan fyddaf gartref gyda’r bobl sy’n deall yr iaith rwyf yn ei siarad, a wyf yn gwneud y mwyaf o’r cyfle i ddangos Iesu iddyn nhw? Yma yn Albania mae pwrpas fy ymweliad yn glir. Ond gartref mae pob math o bethau yn torri ar draws fy ngalwad i fod yn oleuni’r byd (gw. Mathew 5:14). Mae fy atgofion o ymweld â Phrâg ym 1986 a dewrder y Cristnogion y tu ôl i’r llen haearn yn aml yn codi cywilydd arnaf. Ychydig o gyfleon oedd ganddynt i sôn am yr efengyl, ond byddent yn manteisio ar y cyfle, hyd yn oed ar waethaf y perygl iddyn eu hunain. Mae hi mor hawdd i ddisgyn i rhyw dawelwch hunan-fodlon gartref, pan mae cymaint o ryddid yn eiddo i ni.

Yn drydydd, mae fy mhrofiad o gael fy ngadael heb neb i siarad â hwy wedi deffro eto y cwestiwn yn fy meddwl – Pwy yw’r rhai yn ein cymdeithas ni sy’n cael eu hanwybyddu? Pwy yw’r rhai nad yw neb yn siarad â hwy? Pwy sydd “wastad ar y tu fa’s” chwedl y trwynau coch gynt?

Yn bedwerydd, pan fyddaf yn ceisio siarad â rhai adref am Grist, beth mae nhw yn ei glywed? Mae’n hawdd defnyddio’r hen idiomau crefyddol. Ydyn nhw’n deall beth rwy’n ei feddwl pan fyddaf yn sôn am bechod, edifeirwch, ffydd, gras? Sut wyf i gyfathrebu’r ffydd ddigyfnewid mewn idiom fydd yn peri i anghredinwyr fy oes i ddeall neges anhygoel cariad Duw at ddyn? Dylai’r distawrwydd sydd wedi ei orfodi arnaf y fan hyn beri i’m tafod fod yn fwy penderfynol o ddweud wrth eraill am fy Ngheidwad rhyfeddol pan ddaw’r cyfle.