Rwy’n mwynhau brecwast yma, Mae’r gwesty lle rwy’n aros yn cael ei redeg gan Gristnogion. Mae’r awyrgylch yn y bwyty yn braf, a’r rhai sy’n gweini yn gyfeillgar. Rwy’n dod i nabod un yn arbennig. Mae nhw’n dibynnu llawer ar y cildwrn byddan nhw’n ei gael ar ddiwedd pryd. Tydi o ddim y mwyaf moethus o westai’r ddinas, ond mae’n ddiddorol sgwrsio gyda rhai sy’n dod yma – mae amryw o genhadon yn defnyddio’r lle. Wedi brecwast treuliais y bore yn paratoi rhywfaint at y Sul. Byddaf adref erbyn hynny, ac angen dwy bregeth newydd, felly mae gwaith wedi ei wneud heddiw yn arbed gofid ar ddiwedd yr wythnos.

Mae’r haul wedi ymddangos heddiw, felly ar ôl cinio cerddais draw i’r ysgol feddygol (rhwy hanner awr o daith). Roedd y seminarau heddiw yn rhai meddygol, a dysgais lawer am anhwylderau’r croen, a sut i adnabod melanoma ar y croen. Ond mae dau uchafbwynt i’r dydd mewn gwirionedd.

Yn gyntaf rwy’n mwynhau’r sgwrsio sydd yma. Mae’r myfyrwyr Cristnogol yn frwd i rannu eu tystiolaeth. Mae’r rhai nad ydynt yn credu yn barod iawn i wrando. Rwy’n amau efallai eu bod yn gobeithio gwneud cysylltiadau fydd yn eu galluogi i adael y wlad i astudio neu weithio mewn gwlad fwy cyfoethog. Mae hyn yn rhan o dristwch y sefyllfa. Ond mae pethau’n gwella yn y wlad, gyda mwy yn dod yn ôl i wasanaethu yma. Ond mae’r swyddi yn brin. Mae Klara, sef yr un sy’n gweithio i BSKSH yma, gyda swydd rhan amser. Bob bore mae’n gweithio mewn clinig preifat sy’n cael ei noddi gan eglwys o’r Unol Daleithiau er mwyn gwasanaethu’r tlawd. Ond er mai newydd raddio ychydig yn ôl mae Klara, hi sy’n gyfrifol am redeg y clinig cyfan. Mae’n edrych yn flinedig iawn ar adegau.

Un arall y bum yn sgwrsio â hi yw un o’r Americanwyr sydd wedi dod drosodd. Mae’n rhan o dîm bugeiliol eglwys yn UDA. Mae’n cael ei chyflogi’n llawn amser, gyda phump arall, a nifer o rai rhan amser. Mae hi’n ei chael yn anodd dychmygu sut mae gweinidogion yn y Deyrnas Unedig yn gweithio ar eu pen eu hunain i ofalu am eglwysi. Ond nid yw Duw yn adeiladu ei eglwys yn ôl cynlluniau a phatrymau dynol. Mae’n werthfawr cael perspectif gwahanol draddodiadau a sefyllfaoedd.

Yr ail uchafbwynt oedd sessiwn holi ag ateb gydag un o’r Americanwyr, Al B Weir. Mae’n cyfuno oncoleg a haematoleg fel ei arbenigedd, ac mae wedi bod yn trin cleifion â chancr ers dros 30 mlynedd. Mae wedi ysgrifennu llyfr – When Your Doctor Has Bad News: Simple Steps to Strength, Healing, and Hope (Zondervan 2003) – sydd newydd gael ei gyfieithu a’i gyhoeddi yn Albania. Soniodd am noson pan alwyd ef at ei ferch. Roedd yn ymarfer gymnasteg, er mwyn ceisio cael cystadlu yn y gemau Olympaidd, pan gafodd ddamwain ddifrifol a thorri asgwrn ei chefn. Roedd y toriad o fewn milimedr o achosi iddi gael ei pharlysu. Galwodd y meddygon gorau a adwaenai i roi llawdriniaeth iddi. Galwodd ei ffrindiau o Gristnogion i gyd i weddïo drosti. Fe gafodd iachád. Ond pwy a’i hiacháodd – y meddygon neu Duw? A’r ateb wrth gwrs yw, y ddau. Defnyddiodd Duw y sgiliau roedd wedi eu rhoi i’r meddygon. Defnyddiai storïau o gleifion yr oedd wedi eu trin dros y blynyddoedd i ddangos fel ag yr oedd modd cerdded drwy’r adegau tywyll hyn – weithiau yn ôl i iechyd corfforol, ac weithiau i wynebu marwolaeth – gyda heddwch Duw yn ein calonnau. Bu sessiwn buddiol o holi ac ateb, gan wynebu rhai cwestiynau anodd, megis beth ydi agwedd meddyg o Gristion at gynorthwyo rhywun i farw. Dyma lyfr arall i’w roi ar y rhestr o rai i’w darllen.