Mae’n ddiwrnod cyntaf mis Rhagfyr, ac er bod y siopau wedi bod yn ein hatgoffa fod y Nadolig yn dod yn nes ers tro, heddiw yw’r adeg traddodiadol i ni fod yn dechrau paratoi ein hunain ar gyfer Gŵyl y Geni. Neithiwr rhoddwyd perfformiad o oratorio enwog Handel, Y Meseia, yng Nghadeirlan Bangor.

Wedi’r agorawd cerddorol, y geiriau cyntaf a genir yw’r rhai lefarwyd gan y Proffwyd Eseia: “Cysurwch, cysurwch fy mhobl” medd eich Duw”. (Eseia 40:1) Dyma le calonogol i ddechrau myfyrio.

Fe ddywedir ein bod ni’r Cymry yn gallu bod yn bobl sy’n gweld yr ochr dywyll o bob dim. Pobl sy’n gweld y problemau ydym ni yn aml, ac wrth weld y problemau mae’n anodd gwneud unrhyw beth gyda hyder mawr ei fod yn mynd i lwyddo. Ond â bod yn deg, wrth edrych ar y newyddion ar y teledu neu’r we, neu wrth ddarllen y papurau dyddiol, mae yna broblemau mawr yn wynebu ein byd.

Felly tydi o ddim syndod fod yna ryw hiraeth yng nghalonau pobl am gysur. Mi fydd yr hiraeth hwn yn cael ei fynegi mewn sawl ffordd yn ystod yr wythnosau nesaf, a byddai’n hawdd i ni ganolbwyntio ar gondemnio’r gor-fwyta a’r gor-yfed. Ond yn hytrach na gwneud hynny, beth am gofio’r cysur yr oedd Eseia’n cyfeirio ato.

Mae’n gysur dibynadwy, oherwydd pwy sy’n ei gynnig i ni. “Cysurwch, cysurwch fy mhobl” medd eich Duw”  Y Duw tragwyddol yw’r un sy’n ein cyfarch fan yma. Ymhellach ymlaen yn yr un bennod fe ddywedir wrthym: Oni wyddost, oni chlywaist? Duw tragwyddol yw’r Arglwydd a greodd gyrrau’r ddaear; ni ddiffygia ac ni flina, ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy. Y mae’n rhoi nerth i’r diffygiol, ac yn ychwanegu cryfder i’r di-rym. (Eseia 40:28 – 29 BCN) Yn wahanol i’r bwydydd a’r diodydd, yr anrhegion a’r rhaglenni teledu, fydd Hwn ddim yn heneiddio, a bydd ei gysur yn parháu.

Mae’n gysur perthnasol, oherwydd mae’n cyfarch ein hangen dyfnaf – yr angen am adfer ein perthynas gyda’n Crëwr. Cefndir penodau cynnar y broffwydoliaeth yw gwrthryfel Israel yn erbyn Duw, a’r cyfan mae hynny’n ei olygu o safbwynt eu perthynas ag o. Tydi natur dyn ddim wedi newid ers dyddiau’r proffwyd. Torri’r berthynas rhwng ein Crëwr â ni yw’r broblem waelodol o hyd yn ein hanes. Ond mae Duw yn cynnig y cysur o faddeuant i ni am ein holl feiau.

Mae’n gysur i’r rhai sydd am gredu ynddo. “Cysurwch fy mhobl yw’r geiriau. Nid cysur i bawb, ond i bawb sy’n barod i dderbyn yr Un ddanfonwyd i Fethlehem ar y Nadolig cyntaf hwnnw: Cynifer ag a’i derbyniodd, rhoes iddynt hwy, y rhai sy’n credu yn ei enw, hawl i ddod yn blant Duw (Ioan 1:12 BCN). Gadewch i eiriau Eseia osod cyfeiriad eich meddyliau ar ddechrau tymor yr Adfent eleni.