Ddoe fe soniais i am y gân gyntaf yn oratorio Handel, sy’n ein cyfeirio at y cysur mae Duw yn ei gynnig i ni. Mae’r ail gân yn y Meseia yn parháu i ddyfynnu’r proffwyd Eseia, gan symud ymlaen i’r bedwaredd adnod “Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir: y gŵyr a wneir yn union, a’r anwastad yn wastadedd.” (Eseia 40:4 Beibl William Morgan)

Y syniad y tu ôl i’r adnod yw fod cenedl Israel wedi ei halltudio ym Mabilon oherwydd ei drygioni, a bod y ffordd nôl adre yn llawn rhwystrau ond bydd y cwbl yn cael ei newid trwy newyddion da Duw.

Os cydiwn yn y syniad mai holl bwynt dyfodiad Iesu i’n byd yw i’n dwyn yn ôl at Dduw daw nifer o bethau yn amlwg i ni.

Yn gyntaf, mor fawr yw’r rhwystrau ar y ffordd. Fe sonir yn yr adnod am ddyffrynoedd a mynyddoedd, am droeon cas gyda’r ffordd yn gwyro yma ac acw, a’r llwybr yn anwastad. Mae unrhyw un sydd wedi teithio ar hyd y lôn o Borthmadog i Aberystwyth yn y blynyddoedd diwethaf wedi gweld pa mor anodd yw’r gwaith o sythu rhannau o’r ffordd. Mae peiriannau mawr wrthi ers misoedd lawer, gyda thunelli o bridd a chraig yn cael eu symud. Mae’r goleuadau traffig yn profi amynedd y gyrrwr mwyaf laid back. Ond mae hwn yn ddarlun gwan rhywsut o’r rhwystrau sydd rhyngom ni â’n Crëwr. Roedd Eseia wedi gweld Duw ar ei orsedd (Darllenwch Eseia 6), ac wedi sylweddoli na fedrai fod yn ei bresenoldeb a byw, oherwydd ei ddrygioni ei hun. Ymhellach ymlaen mae’n sôn am ein drygioni ni yn achos ysgariad rhyngom â Duw (Eseia 59:2) Fedrwn ni ddim osgoi’r gwirionedd fod ein beiau yn fawr iawn.

Yn ail, mor gyflawn yw’r cynllun i’n dwyn adref. Mae pob mynydd a phant yn mynd i gael ei symud. Bydd pob cornel wedi ei sythu, a’r llwybr carregog wedi ei gyfnewid am lôn lyfn. Mae pob pechod yn mynd i fod wedi ei faddau, a phob anghyfiawnder wedi ei dynnu oddi wrthym drwy newyddion da Duw i ni.

Yn drydydd, Duw ei hun yw’r contractor yn y cynllun hwn. Does dim modd i ni symud y rhwystrau. Dim ond Duw all agor y llwybr yn ôl ato ef ei hun. A dyma’r cysur i ni. Yn hytrach na ni’n gorfod dod o hyd i ffordd o ddringo at Dduw, mae Ef ei hun yn dod i lawr atom ni yn Iesu, ac yn dod i ni yn Ffordd, yn Wirionedd, yn Fywyd. (Ioan 14:6)