Beth mae hanes y Nadolig yn ei ddangos? Beth yw’r peth mwyaf amlwg yn y cyfan? Os ydych wedi darllen y ddwy fyfyrdod flaenorol, fe wyddoch ein bod wedi bod yn edrych ar Eseia 40 gyda Handel yn ei oratorio enwog. Mae’r tenor wedi cael agor yr oratorio gyda dwy gân, ond yna daw pawb i mewn i ymuno mewn corawd ysbrydoledig i ddatgan yr hyn yr oedd Eseia wedi ei ddirnad: “A gogoniant yr Arglwydd a ddatguddir, a phob cnawd ynghyd a’i gwêl” (Eseia 40:5)

Rwan dyma sioc i’r sustem. Beth yw pwynt y Nadolig? “Gŵyl i’r plant” meddai llawer. Bydd eraill yn dweud ei fod yn amser i’r teulu. Mae perygl i ni sy’n arddel Iesu fel ein Harglwydd i fethu’r marc hefyd – rhywsut ryden ni’n meddwl am yr hyn mae geni Iesu yn ei olygu i ni – mae rhywbeth wedi digwydd i ateb ein hangen ni. Daeth Iesu er ein mwyn ni. Rydym yn rhoi ein hunain yn y canol.

Tra bod yna elfen o wirionedd yn hynny, roedd yna rhywbeth mwy pwysig yn digwydd yn nigwyddiadau Bethlehem. Mae yna un peth yn mynnu disgleirio trwy’r cyfan – Gogoniant Duw. Gwelwn hwn yn amlwg iawn yn yr hanes fel mae Luc yn ei gofnodi. Meddyliwch er enghraifft am eiriau Mair yn ei chân ryfeddol: “meddai Mair: “Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd, a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw, fy Ngwaredwr,” (Luc 1:46-47 BCN). Nid ei mawredd hi oedd yn llenwi ei meddwl, ond gogoniant Duw. Wedyn fe ddaw’r angylion at y Bugeiliaid – a beth oedd cân y côr rhyfeddol hwnnw? “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd.” (Luc 2:14)

Dyma thema gyson drwy’r Beibl – mae Duw yn ogoneddus, a pwrpas pob dim drwy’r greadigaeth yw cydnabod y gogoniant hwn. “Y mae’r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a’r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo.” (Salm 19:1 BCN) Felly pan fyddwn yn edrych ar yr haul yn machlud, neu’n rhyfeddu at rai o’r lluniau mae’r gwyddonwyr wedi gallu eu tynnu o’r galaethau pell, rydym fod rhyfeddu at ogoniant y Duw sydd wedi creu ac sy’n cynnal y cyfan trwy ei nerth. Mae’n ogoneddus. Pa ddychymyg a doethineb sydd gan yr UN sydd wedi creu y fath fydysawd? Pa allu sydd gan y Duw hwn sy’n cynnal miliynnau ar filiynnau o sêr.

Ond dim ond rhan o’i ogoniant welwn yn y greadigaeth fel hyn. Pwrpas y geni ym Methlehem, a phwrpas Iesu yn dod i’n byd oedd i ddangos gogoniant Duw mewn ffordd na fedrem ei weld yn y cread drwy delesgop y gwyddonydd. Yn yr hanes hwn fe welwn i mewn i galon y Goruchaf. Fe welwn ei sancteiddrwydd, ei amynedd, a llu o rinweddau eraill. Ond yn arbennig gwelwn ei gariad yn estyn allan at fyd gwrthryfelgar mewn trugaredd anhygoel.

Beth am gymryd ychydig o amser heddiw i feddwl ym mha ffordd mae hanes y Geni yn ei ddweud am ogoniant Duw i chi.