Ddoe fe soniais i am broblem ein cyflwr. (Tymor yr Adfent xi) Rydym mewn trafferth oherwydd fod ein perthynas â Duw wedi ei dorri. Am ein bod wedi mynnu expulsionmynd ein ffordd ein hunain yn hytrach na dilyn cyfarwyddiadau rhesymol ein Crëwr, mae yna bellter wedi codi rhyngom. Oherwydd hyn fe gaewyd Adda ac Efa allan o Eden, a hiraeth mawr calon pob un ers hynny fu ceisio darganfod ffordd yn ôl i Baradwys.
Efallai bydd rhywun yn holi pam fod Duw wedi ei gwneud hi mor anodd i ddod yn ôl ato? Os ydym yn dweud mai cariad yw hanfod natur Duw, pam nad ydyw yn maddau? Dim ond dweud fod y cyfan wedi ei anghofio sydd ei angen. Pam fod rhaid gwneud cymaint o broblem o bechod dyn?

Un ateb i hynny yw fod anghofio yn golygu dweud nad oes dim ots am bechod. Ac i’r un sydd wedi dioddef trosedd yn ei erbyn, tydi hynny ddim yn opsiwn. Holwch y rhai gafodd eu cam-drin yn rhywiol gan Jimmy Saville neu eraill. Tydi dweud “anghofiwch y drosedd” ddim yn opsiwn. Rhan o’r broses o ddelio gyda’r hyn a ddigwyddodd yw cydnabod difrifoldeb y drosedd. Mae ein byd yn llawn o bobl sydd wedi dioddef trosedd yn eu herbyn.

Mae yna genhedloedd wedi dioddef tlodi enbyd oherwydd hunanoldeb ychydig (a difaterwch y rhai sydd wedi caniatáu’r sefyllfa i barháu). Mae yna ferched sydd wedi dioddef eu treisio, pobloedd wedi eu lladd mewn rhyfel, eraill wedi eu cau allan a’u herlid oherwydd rhagfarn, ac am nad ydynt yn ffitio’r patrwm derbyniol. Rydym ni i gyd yn gwybod am y poen o gael cam. Mae mynnu fod Duw yn maddau yn ddigwestiwn yn dweud nad ydi’r poen yna yn cyfrif.

Ond mae Duw yn caru’r un ddioddefodd y cam hefyd. Mae ei gyfiawnder yn ymateb mewn dicter cyfiawn yn erbyn anghyfiawnder. Tydi gwir faddeuant ddim yn beth mor syml ag anghofio cam. Dyna pam yr alltudiwyd Adda ac Efa o ardd Eden. Gawn ni ddim dod yn ôl heb ddelio gyda’r cam yn llawn.

A dyna wrth gwrs sydd yn gwneud y Nadolig yn newyddion mor dda. Sut fedrwn ni dalu am ein troseddu yn erbyn ein cyd-ddyn yn llawn heb sôn am ein gwrthryfel yn erbyn Duw? Mae’r ddyled yn rhy fawr i ni. Ond daeth Duw atom yn Iesu er mwyn talu’r ddyled drosom. Nid anghofio yw sail maddeuant Duw. (Gyda llaw, Duw yw’r un y troseddwyd fwyaf yn ei erbyn bob amser.) Cofio a deall dyfnder y drosedd, ac yna delio gyda hwnnw’n llawn ar y groes yw llwybr Duw o faddau. Dyna beth yw trugaredd rhyfeddol!

Duw a’n cofiodd, Duw a’n carodd,
Duw osododd Iesu’n Iawn;
Duw er syndod ddarfu ganfod
Trefn gollyngdod inni’n llawn.
Duw ryfeddir, iddo cenir
Gan drigolion nef a llawr,
Tra bydd Iesu, fu mewn gwaeledd,
‘N eistedd ar yr orsedd fawr.

Categories: Uncategorized