Familiarity breeds contempt meddai’r hen air. Efallai mai gwireb fwy cywir parthed hanes y Nadoilig fyddai’r hyn ddywedodd rhywun arall yn ddiweddar: Familiarity breeds inattention. Rydym mor gyfarwydd â rhai geiriau ac adnodau, fel nad ydym yn meddwl yn ddwfn iawn am eu hystyr, Cymrwch chi’r adnod honno o Eseia:

Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. (Eseia 9:6)


Mae nhw’n eiriau sydd wedi eu hadrodd ymhob gwasanaeth Nadolig bron ers canrifoedd. Neu neth am y perfformiadau di-rif o oratorio Handel – Y Meseia – lle mae un o’r corawdau yn cyflwyno geirau’r adnod mewn ffordd mor gofiadwy. Ond beth mae’r proffwyd yn ei ddweud wrthym? Ac efallai o’n rhan ni, beth mae’r geiriau yn ei ddweud am wyrth y Nadolig?

Pe byddech yn holi’r pobl pa fath o berson sydd ei angen i ateb anghenion y byd, byddai’r mwyafrif yn disgrifio ryw super hero. Cryfder yw ateb y byd i bob angen. Mae’r ffilmiau fel supermansuperman yn cyfateb i’r hiraeth sy’n ein calonnau am ryw un cryf all oresgyn y problemau. Wedi’r cyfan, tydi superman ddim yn mynd y sâl fel chi a fi. Tydi o ddim yn cael ei lethu gan wendid (oni bai bod rhywun yn ffeindio darn o kryptonite!!)

Yn wleidyddol mae pobl yn edrych am ryw un sydd efo cryfder i sefyll drosom. Felly yn y chwedegau roedd eisiau rhyw un fyddai’n peidio rhoi i mewn i Rwsia a’r Comiwnyddion. Yn y saithdegau roedd eisiau rhyw un fyddai’n sefyll i fyny i’r undebau. Yna ymhellach ymlaen roedd eisiau rhywun fyddai’n gallu gwrthwynebu’r Ffrancwyr a’r Almaenwyr yn yr Undeb Ewropeaidd. Heddiw mae pobl am weld rhyw un sy’n mynd i’m hamddiffyn rhag yr eithafwyr terfysgol fel Al Qaeeda etc.

Beth ydi ateb Duw i ddrygioni’r byd a phechod dyn? Plentyn bach gwan a diniwed. “Bachgen a aned i ni.” Mae yna rywbeth sydd mor counter-intuitive yn ffordd Duw o wneud pethau. Ryden ni’n edrych am un math o gryfder – ond mae ateb Duw yn aml yn wahanol. Sut mae concro Goleiath? Mi fydden ni’n dweud, rhaid cael cawr o ddyn ar ein hochr ni – ond mae Duw yn anfon llanc ifanc o fugail.

Dyma ninnau yn wynebu problem pechod a drygioni’r byd a beth mae Duw yn ei wneud? Anfon babi. Rwan wrth gwrs ryden ni’n credu fod Duw yn y babi hwn – Dwy natur mewn un Person. Ond doedd hwn ddim yn sydyn yn mynd i hedfan allan o’r crud a zapio’r drwg. Fe ddaeth yn blentyn go iawn. Roedd yn gwbl ddiymadferth. Fedrai fo ddim byw heb i Mair ei fwydo. Pe byddai Herod wedi dod i mewn i’r stabal, byddai wedi gallu ei ddifa mewn eiliad gyda’i gleddyf, oni bai i Joseff ei gymryd ar ffo i’r Aifft.

 A dyma gysur i chi a fi. Dyma Un sydd wedi wynebu ein sefyllfa go iawn. Nid y gwleidydd sydd wedi ei fagu mewn cyfoeth, wedi cael mynd i’r ysgol fonedd, wedi cael pob braint gymdeithasol, yn dweud wrth y di-waith sut i fyw, neu wrth yr ysgol mewn ardal ddifreintiedig sut i wneud pethau. Dyma un sydd yn gwybod beth rydym yn ei wynebu, ac sydd wedi dod i goncro trwy gymryd ein baich llethol ar ei gefn ei hun a marw trosom ar groes.