Tymor yr Adfent 2014, 15

download (2)Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i gofrestru’r holl Ymerodraeth. (‭Luc‬ ‭2‬:‭1‬ BCN)

Sut mae’r paratoadau yn mynd tybed? Ydech chi wedi prynu eich anrhegion i gyd? Beth am ysgrifennu a phostio’r cardiau Nadolig? Gwelais rhywle fod ddoe wedi ei bennu yn “National Wrapping Day”! (Roedd y ffaith fod y cyhoeddiad hwnnw yn cyd-fynd â hysbyseb am Scotchtape yn gwneud i mi amau fod yna gymhelliad mwy na chael Nadolig trefnus y tu ôl i ddiwrnod cenedlaethol lapio anrhegion!) Mae cymaint i’w drefnu, medde nhw. Ar raglen Classic FM ddiwedd yr wythnos roedd gwrandawyr yn cael eu hannog i orffen y frawddeg “Christmas wouldn’t be Christmas without ……..” Mae’n syndod beth oedd rhai yn mynnu fod yn rhaid ei wneud er mwyn i’w Nadolig fod yn gyflawn. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 14

imageDaeth Iesu i barthau Cesarea Philipi, a holodd ei ddisgyblion: “Pwy y mae pobl yn dweud ydwyf fi, Mab y Dyn?” (‭Mathew‬ ‭16‬:‭13‬ BCN)

Mae gwahanol bobl yn derbyn gwahanol deitlau yn ein cymdeithas – gelwir un yn “Barchedig” am ei fod wedi ei ordeinio. (fues i erioed yn gyfforddus iawn gyda’r teitl hwnnw!) Bydd un arall yn cael ei anrhydeddu ac yn cael ei alw’n Arglwydd, gyda’r hawl neu’r cyfrifoldeb o fynd i Dŷ’r Arglwyddi yn Llundain i gynorthwyo gyda llywodraethu’r wlad. Mae teitlau wedyn y gellir eu hennill trwy ymdrech – Doctor; Olympic Champion; Pop Idol. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 13

Carolau“Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel am iddo ymweld â’i bobl a’u prynu i ryddid; “(‭Luc‬ ‭1‬:‭68‬ BCN)

Roeddwn yn sôn ddoe am Sachareias, a Duw yn dweud fod ei weddi wedi ei gwrando a’i hateb. Mae’n debyg mai’r peth cyntaf fyddai am ei wneud ar ôl gadael y deml fyddai dweud wrth rhywun am ymweliad yr angel. Ond nid oedd yn gallu. Atebodd yr angel ef, “Myfi yw Gabriel, sydd yn sefyll gerbron Duw, ac anfonwyd fi i lefaru wrthyt ac i gyhoeddi iti y newydd da hwn; ac wele, byddi’n fud a heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd hyn, am iti beidio â chredu fy ngeiriau, geiriau a gyflawnir yn eu hamser priodol.” (‭Luc‬ ‭1‬:‭19-20‬ BCN) Roedd ei anghrediniaeth wedi cau ei enau. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 12

imageYn nyddiau Herod, brenin Jwdea, yr oedd offeiriad o adran Abeia, o’r enw Sachareias, a chanddo wraig o blith merched Aaron; ei henw hi oedd Elisabeth. (‭Luc‬ ‭1‬:‭5‬ BCN)

Ymhlith cymeriadau hanes Gŵyl y Geni, dau sydd byth yn ymddangos yn nramáu’r geni yn yr ysgolion yw Sachareias ac Elisabeth. Ar un olwg mae hynny yn golled, oherwydd dyma gwpl gwerth sylwi arnyn nhw. Roedden nhw’n bobl y gallai Duw weithio yn eu bywydau. Roedd Sachareias yn offeiriad, ac yn ymwybodol o’r fraint oedd ganddo o fod yn un o’r rhai oedd yn cael gwasanaethu Duw yn y deml. Roedd ef a’i wraig yn caru Duw, ond hefyd yn rhai oedd yn gwybod am ofid. Roedden nhw yn ddi-blant. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 10

image“Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab, a gelwir ef Immanuel”, hynny yw, o’i gyfieithu, “Y mae Duw gyda ni”. (‭Mathew‬ ‭1‬:‭23‬ BCN)

Fyddwch chi yn edrych yn ôl weithiau? Un o nodweddion ein cymdeithas yw ein bod yn aml yn cofio ac yn dathlu fod rhyw ddigwyddiad arbennig wedi bod. Bum mlynedd ar hugain yn ôl i eleni, er enghraifft, glaniodd dyn ar y lleuad, a dywedodd Neil Armstrong y geiriau cofiadwy hynny: “One small step for man; one giant leap for mankind.(rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 9

imageDedwyddach yw rhoi na derbyn (Actau 20:35)

Mae’r Nadolig yn gallu bod yn amser o haelioni mawr. Daeth rhoi anrhegion yn gymaint rhan o’r ŵyl o leiaf yn y byd gorllewinol. Bydd plant yn llawenhau wrth agor eu trysorau ar fore dydd Nadolig. Ond bydd rhai eraill yn dangos eu haelioni trwy roi eu hamser i ofalu am y digartref neu’r unig. Er bod modd dadlau fod ein cymdeithas wedi mynd yn hunanol iawn, eto gallwn ddarganfod ysbryd hael mewn sawl lle. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 8

imageI ddinistrio gweithredoedd y diafol yr ymddangosodd Mab Duw. (‭1 Ioan‬ ‭3‬:‭8‬ BCN)

Sut wythnos sydd o’ch blaen tybed? Ydech chi yn edrych ymlaen at y dyddiau nesaf, neu oes yna elfen o bryder, ansicrwydd neu hyd yn oed ofn? Mae hanes geni ein Harglwydd yn dwyn gobaith i’n byd, a gobaith am y dyddiau nesaf.

Gwyddom mai bwriad y diafol wrth demtio Efa oedd dinistrio gwaith Duw. Gwelwn ôl ei waith bob dydd yn y newyddion ddaw drwy’r teledu. Ond gwelwn ei ôl hefyd yn yr ofnau sydd gennym ni wrth wynebu dyfodol ansicr. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 7

 

CarolauYn sydyn ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud: “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd. ” (‭Luc‬ ‭2‬:‭13-14‬ BCN)

Mae carolau yn rhan annatod o’r Nadolig i’r rhan fwyaf o bobl. Pan fydd y cordiau kcyntaf ar yr organ yn dechrau chwarae, a’r geiriau “O deuwch, ffyddloniaid” yn atseinio drwy’r adeilad rydech chi’n gwybod fod Gŵyl y Geni wedi cyrraedd. Mae canu yn dylanwadu arnom mewn ffordd arbennig, gan gyffwrdd yr emosiwn mewn ffordd ddwfn iawn. Ond beth sy’n gwneud carol dda? (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2014, 6

imageYna yr Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, Ni ddaeth fy amser i eto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod. (‭Ioan‬ ‭7‬:‭6‬ Cyfieithiad William Morgan)

Mae’n benwythnos, ac felly i amryw dyma gyfle i ymlacio ychydig. Does dim rhaid mynd i’r gwaith, ac mae mwy o amser i wneud pethau gwahanol, neu i feddwl am bethau gwahanol. Felly heddiw fe hoffwn feddwl ychydig bach am amser. (rhagor…)