Tymor yr Adfent 5

image“Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i fasnachwr sy’n chwilio am berlau gwych. Wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr, aeth i ffwrdd a gwerthu’r cwbl oedd ganddo, a’i brynu.’
‭‭Mathew‬ ‭13:45-46‬ ‭

Darllenwch Mathew 13:44-46

Mae ein bywyd yn cael ei yrru gan ein dymuniadau. Yr hyn mae ein calon wedi rhoi ei fryd arno, dyna’r hyn rydym yn ymdrechu i’w gael. Mae hyn yn gyrru masnach y Nadolig wrth gwrs, ond mae’n gwneud mwy hefyd. (rhagor…)

Tymor yr Adfent 4

image‘Rhoes yntau iddynt yr hyn yr oeddent yn ei ofyn, ond anfonodd nychdod i’w mysg.’
‭‭Y Salmau‬ ‭106:15‬

Darllenwch Salm 106:6-15

Y cwestiwn sy’n cael ei ofyn i blant y mis hwn ydi “Beth hoffet ti gael gan Siôn Corn?” Mae nhw’n cael eu gwahodd i ddychmygu beth fyddai’n rhoi llawenydd iddyn nhw. Yn wir, mae cymaint o firi’r tymor yn troi oddi amgylch y pethau sydd i’w cael a’u profi. Rhywsut rydym yn cael ein perswadio na fyddai’r Nadolig yn gyflawn heb weld y rhaglen deledu arbennig, neu brofi’r bwydydd o ryw siop, neu roi’r tegan diweddaraf i’n plant. Nid fy mwriad yw gweiddi “Bah! Humbug!” – rwyf fi’n mwynhau mins pei gymaint ag unrhyw un arall!   (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2

imageDarllenwch Actau 2:1 – 13

Fore heddiw roeddwn yn gorwedd yn fy ngwely yn meddwl am godi i fynd â’r ci am dro. Mae’r dyddiau diwethaf wedi bod yn ddigon gwlyb, ond nid y glaw oedd i’w glywed bore ‘ma. Yn hytrach na hynny, sŵn y gwynt yn rhuo oddi amgylch y tŷ. Ac wrth fentro allan yn y tywyllwch, roedd ei effaith i’w weld wrth i sbwriel strydoedd Bangor gael ei chwythu oddi ar y lonydd. (rhagor…)