Tymor yr Adfent 4

image‘Rhoes yntau iddynt yr hyn yr oeddent yn ei ofyn, ond anfonodd nychdod i’w mysg.’
‭‭Y Salmau‬ ‭106:15‬

Darllenwch Salm 106:6-15

Y cwestiwn sy’n cael ei ofyn i blant y mis hwn ydi “Beth hoffet ti gael gan Siôn Corn?” Mae nhw’n cael eu gwahodd i ddychmygu beth fyddai’n rhoi llawenydd iddyn nhw. Yn wir, mae cymaint o firi’r tymor yn troi oddi amgylch y pethau sydd i’w cael a’u profi. Rhywsut rydym yn cael ein perswadio na fyddai’r Nadolig yn gyflawn heb weld y rhaglen deledu arbennig, neu brofi’r bwydydd o ryw siop, neu roi’r tegan diweddaraf i’n plant. Nid fy mwriad yw gweiddi “Bah! Humbug!” – rwyf fi’n mwynhau mins pei gymaint ag unrhyw un arall!   (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2

imageDarllenwch Actau 2:1 – 13

Fore heddiw roeddwn yn gorwedd yn fy ngwely yn meddwl am godi i fynd â’r ci am dro. Mae’r dyddiau diwethaf wedi bod yn ddigon gwlyb, ond nid y glaw oedd i’w glywed bore ‘ma. Yn hytrach na hynny, sŵn y gwynt yn rhuo oddi amgylch y tŷ. Ac wrth fentro allan yn y tywyllwch, roedd ei effaith i’w weld wrth i sbwriel strydoedd Bangor gael ei chwythu oddi ar y lonydd. (rhagor…)

Fforwm Ewrop 6

Daeth diwrnod y teithio. Ond nid y siwrnai oedd yr unig beth ar fy meddwl. Neithiwr, wedi’r cyfarfod olaf, aeth pump ohonom am dro i dafarn heb fod ymhell o’r gwesty lle buom yn aros. Gyda mi roedd Dau gyfaill o Ogledd Iwerddon, gweinidog ifanc o Hwngari a gŵr o Sweden sydd wedi bod yn gweinidogaethu, ond oherwydd afiechyd roedd wedi gorfod rhoi ei waith heibio dros dro. Buom yn trafod yr wythnos a sut fyddai’r hyn roeddem wedi ei brofi yn dylanwadu ar yr hyn fyddwn yn ei wneud. (rhagor…)

Fforwm Ewrop 5

Michael Oh, cyfarwyddwr mudiad Lausanne

Michael Oh, cyfarwyddwr mudiad Lausanne

Gyda’r Fforwm yn tynnu at ei therfyn, dilynodd dydd Mercher yr un patrwm mwy neu lai â’r dyddiau eraill. Roedd brecwast unwaith eto am 7.00, a’r tro hwn daeth dau i gael eu mentora. Mae’r ddau yn gweinidogaethu mewn eglwys ym Mudapest, Hwngari, a phroblemau yn deillio o gyfnod y cyn-weinidog. Buom yn trafod am bron i ddwy awr gan golli rhan o gyfarfod cyntaf y dydd. (rhagor…)

Paratoi i bregethu

imageFel y mae’r glaw a’r eira yn disgyn o’r nefoedd, a heb ddychwelyd yno nes dyfrhau’r ddaear, a gwneud iddi darddu a ffrwythloni, a rhoi had i’w hau a bara i’w fwyta, felly y mae fy ngair sy’n dod o’m genau; ni ddychwel ataf yn ofer, ond fe wna’r hyn a ddymunaf, a llwyddo â’m neges. (‭Eseia‬ ‭55‬:‭10-11‬ BCN)

Mae heddiw yn un o’r Suliau prin hynny pryd nad wyf yn pregethu. Dyma gyfle i wrando, a gadael i Dduw siarad wrthyf drwy gyfrwng rhywun arall. (rhagor…)