Adfent 2014
Tymor yr Adfent 2014, 2
Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti, O Dduw. (Salmau 42:1 Cyfieithiad William Morgan)
Mae hiraeth yn un o’r geiriau hynny sy’n arbennig i’r iaith Gymraeg. Mae’n anodd ei gyfieithu – ac eto mae’n brofiad cyffedin i bawb. Mae’n mynegi rhyw anfodlonrwydd gyda’n sefyllfa, a dymuniad i fod naill ai gyda rhywbeth arall, mewn rhyw le arall, neu gyda pherson absennol. (rhagor…)
Mae Rhagfyr y cyntaf wedi cyrraedd ac felly mae yna un thema yn llenwi’r siopau, yr hysbysebion ar y teledu, a strydoedd ein trefi a’n dinasoedd – mae’r Nadolig yn nesáu. Bydd yna baratoi o ddifrif yn digwydd. Mae Black Friday drosodd, Cyber Monday heddiw, ond mewn gwirionedd y pwyslais fydd paratoi ac edrych ymlaen at gael dathlu ar Ragfyr y pumed-ar-hugain.
Mae’n siwr mai un testun trafod fydd yn dod i’r amlwg rwan, fel bob blwyddyn, fydd “mynd ar ddeiet.” Wedi’r gwledda dros yr ŵyl mi fydd pobl yn meddwl am ffyrdd o golli’r pwysau a chael gwared â’r modfeddi sydd wedi cael eu hychwanegu at ein canol gan y mins peis, y gacen Nadolig a’r siocledi. Mae bwyta’n iach yn beth synhwyrol i’w wneud, yn enwedig pan fyddwn yn clywed fod gordewdra yn un o broblemau mwyaf iechyd pobl yn y wlad hon. Wedi’r cyfan, pwy sydd am ddioddef o glefyd y galon, clefyd siwgr, neu un o’r llu o bethau y dywedir sy’n deillio o fod dros bwysau?
Roedd y gwynt yn hyrddio yma ym Mangor neithiwr. Dywedir fod y gwynt yn Aberdaron yn plycio ar ymhell dros gan milltir yr awr. Mae’n siwr bydd yna goed wedi disgyn a niwed ar draws y wlad. Mae’r gwynt yn gallu bod mor amrywiol – o awel dyner fin nos yn yr haf i gorwyntoedd dinistriol. Ac wrth gwrs, tyden ni ddim yn gallu ei reoli.
Wel, fe aeth y diwrnod mawr heibio unwaith eto. Gobeithio i chi brofi bendith a mwynhád yn ystod y dydd. Mae’n siwr y bydd y mwyafrif ohonoch yn parháu i fwynhau cyfnod o ymlacio heddiw, os nad ydych wedi bod yn brysio i’r “Sales” bondigrybwyll. Er, i rai pobl dyna yw eu dileit – mae nhw’n cael ymlacio wrth fynd i edrych y bargeinion. I eraill, mae digon o’r twrci ar ôl, ac amser i ymlacio ac edrych yn fwy hamddenol ar yr anrhegion.
Mae’r dydd mawr wedi cyrraedd. Bydd y plant wedi bod yn agor eu hanrhegion, a’r rhan fwyaf ohonom yn cael diwrnod i ddathlu. Mae llawer o fwynhad i’w brofi yn y dathliadau. Ond y tu cefn i’r cyfan fe ddylem ryfeddu yn gyson am i Dduw ein caru, a danfon ei Fab er ein mwyn. Fel y gwnes y llynedd, dyma gyflwyno cerdd a ysgrifenais ychydig flynyddoedd yn ol.
Tua Bethlem dref
recordiad o ryw bianydd rhyfeddol oedd newydd ymddangos – y gair ddefnyddiwyd oedd – unmissable. Wel, mi wnes i ei fethu. Erbyn mynd i mewn i’r tŷ, daeth cant a mil o bethau eraill i lenwi fy mryd, ac felly mi fethais glywed y gerddoriaeth ragorol oedd wedi ei addo.
Ddoe daeth y newydd for Ronnie Biggs wedi marw – cymeriad a ddaeth yn amlwg yn sgîl y rhan fach a gymerodd yn y drosedd a ddaeth i gael ei hadnabod fel the great train robbery.