Adfent 2014
Tymor yr Adfent 2014, 20
Fel hyn y bu genedigaeth Iesu Grist. Pan oedd Mair ei fam wedi ei dyweddïo i Joseff, cyn iddynt ddod at ei gilydd fe gafwyd ei bod hi’n feichiog o’r Ysbryd Glân. A chan ei fod yn ddyn cyfiawn, ond heb ddymuno ei chywilyddio’n gyhoeddus, penderfynodd Joseff, ei gŵr, ei gollwng ymaith yn ddirgel. (Mathew 1:18-19 BCN) (rhagor…)
Un o’r pethau sydd wedi dod yn amlwg yn ystod y degawdau diwethaf yn y Gorllewin yw nad yw pobl yn gallu bodloni ar gredu mai deunydd plaen – atomau a moleciwlau materol yn unig – ydym. Mae yna ryw hiraeth am yr “ysbrydol”. Mae yna reddf ynom sy’n golygu bod yna syched yn ein calonnau am fwy na bwyd, iechyd a diogelwch.
Un cyhuddiad yn ein herbyn ni sy’n credu ydi ein bod wedi dyfeisio’r syniad o Dduw am ei fod yn ein siwtio – rhyw Sion Corn o dduw i’n helpu trwy fywyd. Er y gellir olrhain y syniad hwn yn ôl o leiaf i Ludwig Feuerbach (1804 – 1872), mae dwy ffrwd y gellir sôn amdanyn nhw yn y meddwl poblogaidd.
Yn gyntaf, mae’n ymddangos yn gred ddigalon iawn. Mewn dyfyniad enwog o eiddo Francis Crick, (a ddarganfyddodd strwythur DNA gyda’i gydweithiwr James Watson) dywedodd: “ ‘You,’ your joys and your sorrows, your memories and your ambitions, your sense of personal identity and free will, are in fact no more than the behaviour of a vast assembly of nerve cells and their associated molecules. Who you are is nothing but a pack of neurons.” (The Astonishing Hypothesis: The Scientific Search for Soul (1994)) 
Yn y gyfres nesaf y bwriad fydd holi’r cwestiwn: Pam ydw i’n Gristion? Mewn cyfnod pryd mae llawer iawn o’m cyfoedion wedi cefnu ar yr hen draddodiad crefyddol, a’r gair “efengylaidd” yn arbennig yn dwyn cymaint o oblygiadau negyddol ym meddwl llawer o fy nghyd-Gymry, beth sy’n gwneud i mi fod yn hapus i arddel neges y Beibl?
Heddiw mae sylw mawrion y byd ar lecyn tlawd, diarffordd o’r enw Qunu yn Ne Affrica. Does yna ddim arbenigrwydd mawr i’r lle. Mae’n ardal ddigon hardd ond does dim dinas fawr yno. Does yna ddim diwydiant trwm, neu fwyngloddiau, neu brifysgol i ddod â chyfoeth nac arbenigrwydd i’r ardal. Ond yno y ganwyd Nelson Mandela, ac yno heddiw fe’i cleddir, lle mae ei gyndadau a thri o’i feibion wedi eu claddu. Dyna sydd wedi gosod y lle ar y map – mae’r mab a anwyd yno wedi ei wneud yn fan y bydd pobl yn teithio iddo i dalu gwrogaeth i’r dyn fu mor allweddol yn hanes diweddar y wlad.
Mae’r eglwys wedi bod yn dda iawn ar adegau am gau pobl allan. Dim ond y parchus sy’n dderbyniol. Dim ond y rhai sydd wedi dod i fyny i’r safon sy’n cael dod i mewn. Mae wedi llwyddo i roi yr argraff i gymaint nad oes lle iddyn nhw yn y gymdeithas sy’n dwyn enw Iesu Grist. Mae yna rhyw eironi torcalonnus am hyn o ystyried neges y Beibl.