Adfent 2014
Tymor yr Adfent 2014, 25
Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl: ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd; (Luc 2:10-11 BCN)
Daeth y diwrnod mawr – ac ar hyd a lled y wlad bydd plant yn cynhyrfu o weld yr anrhegion. Bydd rhyfeddod yn llygaid ambell un, ac efallai ambell un wedi ei siomi. Ond yn gyffredinol mi fydd yna lawenydd ar aelwydydd y wlad. Mae’r Adfent wedi troi yn Nadolig. Wedi’r disgwyl a’r edrych ymlaen, daeth y cyflawniad. (rhagor…)
Ond wedi’r dyddiau hynny beichiogodd Elisabeth ei wraig; ac fe’i cuddiodd ei hun am bum mis, gan ddweud, “Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf i dynnu ymaith fy ngwarth yng ngolwg y cyhoedd.” (Luc 1:24-25 BCN)
Sut mae’r anrhegion erbyn hyn? Gobeithio eu bod yn dal i blesio, ond wythnos wedi’r Nadolig efallai fod yr excitement wedi lleihau bellach. Bydd rhieni yn ddiolchgar fod ambell i degan wedi tawelu am fod y batri wedi mynd yn fflat. Bydd ambell i anrheg efallai wedi torri. Mae’n siwr fod nifer ohonyn nhw yn dal i ddod â phleser mawr, ond bydd ambell un arall wedi cael ei roi o’r neilltu a rhai o’r hen deganau wedi cael dod allan erbyn hyn. Mae rhai o’r trimmings Nadolig yn edrych ychydig yn hen, nodwyddau’n disgyn oddi ar y goeden, a’r twrci gobeithio wedi hen ddiflannu. Dyna sut y dylai fod ar un olwg.
Pa eiriau fyddwch chi’n eu cysylltu gyda hanes Gŵyl y Geni tybed? Mae yna nifer o eiriau ddaw i’m meddwl i, a tydi’r blynyddoedd ddim yn eu newid: