imageYr wythnos hon rwyf wedi teithio i Hothorpe Hall ynghanol Lloegr ar gyfer cynhadledd deuluol UFM Worldwide. Dyma’r genhadaeth rwyf fi a Heledd yn gysylltiedig â hi. Mae nifer dda ohonom wedi dod ynghyd, gan gynnwys nifer fawr o genhadon UFM. Felly mae’n gyfle arbennig y glywed am yr hyn sy’n digwydd mewn gwahanol,rannau o’r byd.

Yn y boreuau rydym yn ymgasglu i weddïo cyn brecwast. Yno fe dynnir sylw at rai anghenion arbennig. Heddiw roeddem yn canolbwyntio ar Ewrop a’r Deyrnas Unedig. Yna, wedi brecwast down ynghyd i addoli ac eistedd o dan y Gair. David Magowan sy’n ein harwain. Mae David yn un o weinidogion Eglwys Fedyddiedig Carey. Mae’n edrych ar bennod gyntaf llythyr Iago yr wythnos hon.

Yn y cyfarfodydd eraill cawn glywed gan wahanol genhadon. Fore heddiw cawsom glywed am bedair sefyllfa wahanol, sef Indonesia, Gwlad Thai, Papua Guinea Newydd ac India. Mae’r hanesion yn herio, ond hefyd yn calonogi. Meddyliwch am Indonesia, lle mae’r mwyafrif llethol yn Foslemiaid. (Yn y wlad hon mae’r nifer uchaf o Foslemiaid yn y byd) Roedd y cwpl sy’n gweithio yno yn sôn am yr her o geisio plannu’r hedyn mwstard, gan gredu y bydd yn tyfu’n goeden fawr ymhen amser. Soniwyd am un ynys lle mae pum miliwn o Foslemiaid, a dim ond cant ac ugain o Gristnogion. Mae’r gwaith yn aruthrol, ond mae cyfleon yn dod i weld Duw yn trawsnewid bywydau.

Yng ngwlad Thai Bwdistiaid yw’r mwyafrif llethol o bobl. Dyma grefydd heb obaith. Rhannwyd y neges a roddir mewn angladd Bwdistaidd â ni. Y neges gyntaf yw nad ydym ni yn ddim ond rhith. Rydym yn gyfuniad o’r elfennau, sef tân, dŵr, daear ac awyr, wed eu cyfuno efo Karma. Wrth farw mae’r elfennau yn diflannu, a dim ond Karma yn parháu, felly does dim byd ar ôl wedi i ni farw. Fyddwn ni ddim yn dod yn ôl, dim ond bydd y Karma yn ymddangos mewn ffurf arall. Felly y gorau y gallwn ni ei wneud yw ceisio byw ein gorau fel bod y Karma’n peidio dod yn ôl mewn ffurf annifyr neu gwael. Wnawn ni byth weld ein hanwyliaid eto – mae nhw wedi mynd. Marw yw’r diwedd i ni felly gorau po gynted y gallwn dderbyn hynny.
Mewn gwrthgyferbyniad mae Cristnogaeth yn llawn gobaith – gobaith o faddeuant am y drwg, sef peidio ei gario gyda ni i ryw Karma arall. Mae Iesu wedi dwyn ein beiau ei hunan. Gobaith y cawn fyw gyda Duw mewn llawenydd perffaith os y gwnawn ni edifarhau. Gobaith o gael gweld ein hanwyliaid, ond yn fwy, o gael gweld Iesu rhyw ddydd.

Y siaradwraig o Papua Guinea Newydd oedd Rosie Crowter. Aeth allan yno fel meddyg i geisio dysgu’r bobl am ofal iechyd. Ond yn fuan sylweddolodd fod salwch yn cael ei briodoli ganddynt i hud a dewiniaeth. Felly doedd dim iws sôn am ddefnyddio mosquito nets ac yn y blaen. Gwelodd mai ei thasg gyntaf oedd egluro fod Iesu yn gryfach na’r ysbrydion aflan, ac felly rhaid pwyso arno ef yn gyntaf. Soniodd am wraig sy’n dod i lanháu ei thŷ unwaith yr wythnos. Mae hefyd yn eistedd i oawr i ddarllen y Beibl gyda hon. Ar y funud mae wedi bod yn mynd trwy’r llythyr at yr Hebreaid, ac wedi ei chyfareddu – Mae Iesu’n well na Moses, yn well na’r angylion, ac yn well na’r holl ysbrydion mae pobl PNG yn eu haddoli.

O droi at India roeddem yn clywed am sut mae’r gwaith mewn ardal Hindŵaidd yn mynd yn ei flaen. Soniwyd am ddyn oedd wedi plannu dros gant o eglwysi yn Rajasthan, er ei fod wedi colli ei olwg mewn un llygad a chael niwed mawr mewn ymosodiad gan yr arweinwyr Hindŵaidd.