image“Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.” (‭Mathew‬ ‭28‬:‭20‬ BCN)

Rydym wedi bod yn dathlu’r ffaith fod Duw wedi dod i’n byd mewn baban bach. Dyma un o’r pethau sy’n gwneud Cristnogaeth yn unigryw. Er i lawer o bobl geisio honni fod dilynwyr cynnar Iesu wedi ceisio dwyn syniad o chwedloniaeth y Groegiaid ac eraill am y duwiau yn dod i lawr i fyd dynion, eto does yna’r un o’r chwedlau, nac un o grefyddau eraill y byd ychwaith yn honni’r hyn a wna Cristnogion. Daeth y Gair yn gnawd. Nid dod mewn rhith. Daeth Duw yn un ohonom ni. Mae’r syniad yn un sy’n ymestyn ein meddyliau wrth i ni geisio ei werthfawrogi.

Ond wedi rhyw dri deg a thair o flynyddoedd, gadawodd Crist y ddaear. Fe adawodd ei ddisgyblion a dychwelyd at ei Dad yn y nefoedd. Ond ni wnaeth hyn heb adael i ni addewid sydd bron yr un mor rhyfeddol â gwyrth yr ymgnawdoliad. Dywedodd y byddai ei ddilynwyr yn gallu dibynnu ar ei bresenoldeb real gyda hwy. Er ei fod yn gorfforol absennol, byddai ei bresenoldeb mor real â phe byddem yn ei weld yn eistedd gyferbyn â ni wrth i ni ddarllen y myfyrdod hwn. Nid Emaniwel, Duw gyda ni dros dro yw neges y Nadolig.

Mae’r Beibl yn gosod hyn mewn cymaint o wahanol ffyrdd, fel na ddylem ei amau am funud. Gallai Paul sôn am y dirgelwch: Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant. (‭Colosiaid‬ ‭1‬:‭27‬ BCN) Yn wir, gallwn ehangu’r addewid. Dywedodd Iesu ei hun: “Os yw rhywun yn fy ngharu, bydd yn cadw fy ngair i, a bydd fy Nhad yn ei garu, ac fe ddown ato a gwneud ein trigfa gydag ef.” (‭Ioan‬ ‭14‬:‭23‬ BCN) Dyma chi sôn am y Tad a’r Mab yn bresennol gyda ni – yn gwneud eu cartref gyda ni. Wrth gwrs gallwn hefyd sôn am drydydd person y Drindod Sanctaidd yn bresennol gyda’r rhai sydd wedi ymddiried eu hunain i Grist: “fe ofynnaf finnau i’m Tad, ac fe rydd ef i chwi Eiriolwr arall i fod gyda chwi am byth, Ysbryd y Gwirionedd.”  (‭Ioan‬ ‭14‬:‭16-17‬ BCN)

Does dim rhaid i ni ddeall dyfnderoedd athrawiaeth y Drindod i fedru gwerthfawrogi y gwirionedd rhyfeddol sy’n cael ei osod ger ein bron yn yr addewidion hyn. Mae’r Un a dawelodd storm ar y môr gyda gair, yr Un a fendithiodd bum torth fechan a dau bysgodyn, a bwydo miloedd, yr Un a roddodd ei ddwylo ar lygaid y deillion i’w hagor, a chlustiau’r byddariaid iddyn nhw glywed, yr Un a estynodd i afael yn llaw merch Jairus i’w deffro o gwsg marwolaeth, yn bresennol gyda’i ddilynwyr bob amser. Yn fwy, mae ynom ni, yn agosach atom na’n hanadl ein hunain.

Dyma wirionedd i ni fedru ei gymryd gyda ni i bob sefyllfa y byddwn yn ei wynebu yn ystod y flwyddyn. Bydd gafael yn y ffaith hon yn ein cadw rhag rhoi mewn i demtasiwn y gelyn (1 Corinthiaid 10:13). Bydd yn eich cadw rhag unigrwydd (2 Timotheus 4:16,17), a rhag anobaith (2 Corintiaid 1:8-10). Bydd yn rhoi hyder i ni geisio gras i wynebu bob dydd (Hebraid 4:16), ac i ofyn pethau mawr gan Dduw (Mathew 18:19-20).

Coron y cyfan yw y bydd 2015 yn flwyddyn lle cawn fwy na chael ein cadw’n ddiogel trwy bob math o brofiadau. Bydd yn flwyddyn lle cawn ddod i adnabod Duw yn well, a phrofi rhywfaint o hyd, lled uchder a dyfnder cariad Crist, a gwybod am y cariad hwnnw er ei fod uwchlaw gwybodaeth.