Darllenwch Salm 2image

Daeth yn fis Rhagfyr unwaith eto – mis y dathlu mawr. Mae Dydd Gwener DuDydd Llun Cyber wedi bod, a ninnau bellach yn troi ein meddyliau efallai at weithgaredd y Nadolig.

Daw’r Nadolig eleni ar ddiwedd blwyddyn fu’n dywyll i lawer. Prin fod llawer ohonom wedi clywed am Charlie Hebdo cyn Ionawr 7fed eleni. Daeth straeon difrifol i’n sylw o’r Dwyrain Canol a Rhagfyr yn agor yng nghysgod y gyflafan ddiweddaraf ym Mharis a’r Prif Weinidog yn gofyn am gael ymuno yn yr ymgyrch i fomio IS yn Syria.
Ym mis Mawrth diflanndd awyren Germanwings 9525 ym mynyddoedd yr Alpau; ym mis Ebrill bu daeargryn enfawr yn Nepal; lladdwyd newyddiadurwraig a dyn camera wrth iddyn nhw ddarlledu’n fyw yn yr Unol Daleithiau; ffrwydrodd bom ar awyren Rwsiaidd uwch penrhyn Sinai. Does dim amser i sôn am Ebola, Boko Haram, Iwcraen, Corwynt Patricia a llu o drychinebau eraill.
A fuodd yna adeg pan fo mwy o angen neges am Waredwr i’n byd? Onid oes yna hiraeth yng nghalonnau ar draws y byd am gael clywed am Dywysog Tangnefedd? Onid oes yna laweroedd yn credu fod y byd yn greulon, a phopeth yn eu herbyn? Oni fyddent wrth eu bodd yn clywed am Emaniwel – Duw gyda ni?

imageY peth syfrdanol yw fod gan Gristnogion hanes sydd yn dweud y pethau hyn wrthym. Sut felly fod y rhelyw o bobl ein gwlad heb glywed y neges? Ydi’r eglwys wedi bod yn rhy dawel? Ydym ni wedi bod yn rhy llwfr, yn ofni dweud gormod? Dyma adeg o’r flwyddyn pryd y bydd disgwyl i ni gynnal gwasanaethau carolau. Gadewch i ni beidio a’u troi yn ddim byd ond diddanwch sentimental. Gadewch i ni fod yn eofn yn cyhoeddi hanes geni’r un sydd wedi ei osod yn “Frenin ar Seion (Salm 2:6). Gadewch i ni “fod yn barod i  bob amser i roi ateb i bob un fydd yn ceisio gennych gyfrif am y gobaith sydd ynoch. ” (1 Pedr‬ ‭3:15‬ )‭

Sut awn ni ati i gyhoeddi’r newyddion da o lawenydd mawr?