imageDarllenwch Actau 17:16-3

Un o fendithion dod i rhywle fel Athen yw sylweddoli ein bod yn byw mewn byd sydd â hanes iddo. Bore ddoe cefais ddringo’r Acropolis, a chael fy arwain drwy hanes gwahanol gyfnodau a brwydrau’r ddinas a chenedl y Groegiaid. Dyma ddinas dysg, lle bu athronwyr mawr Groeg wrthi yn trafod eu syniadau mawr.

Gwelais adfail carchar Socrates, lle treuliodd rai wythnosau cyn gorfod yfed y gwenwyn a’i lladdodd. Clywais am Plato a Phythagoras. Dyma grud diwylliant y Gorllewin ar sawl ystyr, ac er mai adfeilion yw’r adeiladau, mae digon yma i ddangos mor aruchel eu dysg a’u diwylliant.

Bum hefyd yn cerdded lle bu’r Apostol Paul, yn yr Areopagus, lle pregethodd am yr allor i’r “Duw nid adwaenir”. Er eu holl ddysg, roedd yna ansicrwydd yn eu plith. Oedd yna dduw tybed yr oeddent wedi ei anghofio – un yr oedd angen ei fodloni ag aberth rhag iddo ddigio wrthynt? Gallai’r Apostol egluro iddynt mai hwn oedd y gwir Dduw, uwchlaw pob un arall, a oedd eisioes wedi ei fodloni yn Iesu. Dyma’r un oedd ar y naill law yn eu galw i edifarhau a chredu ynddo. Hwn hefyd fyddai’n eu rhyddhau o’r ofn oedd yn eu cadw’n gaeth i’r llu o dduwiau ffals o’u cwmpas.

Yn ein hoes ddysgedig ni mae ansicrwydd yn dal yn bod am gwestiynau mawr bywyd. Pam yden ni yma? Beth ddaw ohonom wedi i ni farw? Oes yna ddiben i fywyd? Oes yna werth ac arwyddocád i’n bywydau? Mae gennym fwy o wybodaeth nag erioed o’r blaen yn hanes y ddynolryw, ond mae cymaint o ansicrwydd ag erioed.

Yr Areopagus

Yr Areopagus

Ond gallwn ni, fel Paul, gyfeirio at yr Un sy’n rhoi ystyr i’n bywydau – yr Un anwyd ym Methlehem er mwyn i ni gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder. Mae’n alwad i droi oddi wrth eilunod ein hoes. Mae hefyd yn alwad i ryddid newydd – rhyddid rhag yr ansicrwydd sy’n cartrefu yng nghalonnau cymaint o’n cyd-Gymry heddiw.