Nadolig 2014
Nadolig 2014, 3
A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad. (Ioan 1:14 BCN)
Y peth cyntaf y gellir ei ddweud am eiriau Duw yw eu bod yn rhai gweithredol. Un o’r pethau cyntaf rydym yn ei ddarllen yn y Beibl yw: dywedodd Duw, “Bydded goleuni.” A bu goleuni. (Genesis 1:3 BCN). Sylwch, tydi o ddim yn dweud: Dywedodd Duw, “Bydded goleuni.” Ac aeth Duw ati i greu goleuni. Rydym ni yn gallu dweud “Bydded goleuni” ond rhaid i ni wedyn godi a throi’r switch arnodd. Ond mae geiriau Duw yn wahanol. Mae Duw yn dweud ac mae rhywbeth yn digwydd. (rhagor…)
A phan welsant y seren, yr oeddent yn llawen dros ben. (Mathew 2:10 BCN)
Ond yr oedd Mair yn cadw’r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon ac yn myfyrio arnynt. (Luc 2:19 BCN)
Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl: ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd; (Luc 2:10-11 BCN)
Wedi i’r angylion fynd ymaith oddi wrthynt i’r nef, dechreuodd y bugeiliaid ddweud wrth ei gilydd, “Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano.” (Luc 2:15 BCN)
Yna cododd a mynd at ei dad. A phan oedd eto ymhell i ffwrdd, gwelodd ei dad ef. Tosturiodd wrtho, rhedodd ato, a rhoes ei freichiau am ei wddf a’i gusanu. (Luc 15:20 BCN)
“Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd. ” (Luc 2:14 BCN)
Yn sydyn ymddangosodd gyda’r angel dyrfa o’r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud: “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd. ” (Luc 2:13-14 BCN)
Fel hyn y bu genedigaeth Iesu Grist. Pan oedd Mair ei fam wedi ei dyweddïo i Joseff, cyn iddynt ddod at ei gilydd fe gafwyd ei bod hi’n feichiog o’r Ysbryd Glân. A chan ei fod yn ddyn cyfiawn, ond heb ddymuno ei chywilyddio’n gyhoeddus, penderfynodd Joseff, ei gŵr, ei gollwng ymaith yn ddirgel. (Mathew 1:18-19 BCN)
Ond wedi’r dyddiau hynny beichiogodd Elisabeth ei wraig; ac fe’i cuddiodd ei hun am bum mis, gan ddweud, “Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau yr edrychodd arnaf i dynnu ymaith fy ngwarth yng ngolwg y cyhoedd.” (Luc 1:24-25 BCN)