Tymor yr Adfent iii

Beth mae hanes y Nadolig yn ei ddangos? Beth yw’r peth mwyaf amlwg yn y cyfan? Os ydych wedi darllen y ddwy fyfyrdod flaenorol, fe wyddoch ein bod wedi bod yn edrych ar Eseia 40 gyda Handel yn ei oratorio enwog. Mae’r tenor wedi cael agor yr oratorio gyda dwy gân, ond yna daw pawb i mewn i ymuno mewn corawd ysbrydoledig i ddatgan yr hyn yr oedd Eseia wedi ei ddirnad: “A gogoniant yr Arglwydd a ddatguddir, a phob cnawd ynghyd a’i gwêl” (Eseia 40:5) (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2013 ii

Ddoe fe soniais i am y gân gyntaf yn oratorio Handel, sy’n ein cyfeirio at y cysur mae Duw yn ei gynnig i ni. Mae’r ail gân yn y Meseia yn parháu i ddyfynnu’r proffwyd Eseia, gan symud ymlaen i’r bedwaredd adnod “Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir: y gŵyr a wneir yn union, a’r anwastad yn wastadedd.” (Eseia 40:4 Beibl William Morgan) (rhagor…)

Tymor yr Adfent 2013

Mae’n ddiwrnod cyntaf mis Rhagfyr, ac er bod y siopau wedi bod yn ein hatgoffa fod y Nadolig yn dod yn nes ers tro, heddiw yw’r adeg traddodiadol i ni fod yn dechrau paratoi ein hunain ar gyfer Gŵyl y Geni. Neithiwr rhoddwyd perfformiad o oratorio enwog Handel, Y Meseia, yng Nghadeirlan Bangor. (rhagor…)