images (9)Dyma ni wedi cyrraedd diwedd y gwyliau Nadolig yn ôl yr hen draddodiad. Mae’r paratoi dros dymor yr Adfent, a’r dathlu dros ddeuddeg diwrnod yn dod i ben heddiw. Yfory bydd llawer yn tynnu’r addurniadau i lawr, a bydd bywyd yn dychwelyd i normalrwydd mis Ionawr. Bydd y plant yn dychwelyd i’r ysgolion, y myfyrwyr i’r colegau a phawb arall i’w gorchwylion a’u gwaith. Bywyd normal, cyfarwydd wrth i ni gerdded llwybr bywyd trwy flwyddyn arall.

Mae yna rai llwybrau sy’n gyfarwydd iawn i ni. Byddwn wedi cerdded ar eu hyd droeon, ac rydym yn gyfarwydd â phob troad a phob golygfa. Rydym yn gyfforddus yn mynd ar eu hyd. Ond weithiau rydym yn gorfod teithio rhyw lwybr newydd. Tyden ni ddim wedi bod ar hyd-ddo o’r blaen ac mae’r tirlun yn wahanol, y ffordd yn anghyfarwydd a mwy o ansicrwydd am yr hyn sydd o’n blaen. Mae hynny’n gallu bod ychydig yn  anghyfforddus.

Pan oedd Heledd allan ym Mhortugal rai blynyddoedd yn ôl roeddwn wedi bod yn ei gweld, ac yn gyrru yn ôl i’r maes awyr yn Porto. Roedd hi’n dywyll, roedd y petrol yn y car yn isel iawn, ac roedd yr arwyddion i gyd yn Portugese. Roeddwn ar goll yn crwydro rhyw strydoedd cefn yn ninas Porto. Doedd dim arwydd o’r maes awyr yn unman, dim sat-nav gen i, a neb y gallwn ofyn y ffordd iddyn nhw. Pan welais i rhywun o’r diwedd ar ochr y lôn i’w holi, doedden nhw ddim yn siarad gair o Saesneg (na Chymraeg!) a doedden nhw ddim help o gwbl. Roedd yr amser roeddwn fod yn dal fy awyren yn ôl i Brydain yn nesu. Doedd dim i’w wneud ond gobeithio’r gorau, a gyrru gan geisio cadw fy mhryderon o dan reolaeth.

Sut fydd 2014? Llwybrau normal, cyfarwydd, neu lôn newydd na fuom ar hyd-ddi o’r blaen? Wrth i ni ddychwelyd i’n bywyd bob dydd does dim rhaid i’r Cristion fod fel fi ar fy ffordd i faes awyr Porto. Oherwydd mae’r Nadolig yn golygu fod popeth wedi newid. Mae Duw wedi dod i’n byd – Emaniwel, sef Duw gyda ni. Mae wedi dwyn ein beiau i gyd ar ei gefn ei hun ar y groes. Bellach mae pob dydd yn ddydd o obaith – yn ddydd o bosibiliadau newydd. Oherwydd mae pawb sydd wedi ymddiried yn y Gwaredwr yn gwybod fod gras Duw ar waith i’n dwyn adref yn ddiogel.

Tydw i ddim yn dweud na fyddwn yn teimlo ofn a phryder ar adegau, ynghŷd â siom neu ddolur. Ond byddwn hefyd yn profi llawenydd a thangnefedd o wybod fod ein Harglwydd wedi addo ei fod yn mynd o’n blaen ni i baratoi lle i ni yn y nefoedd, a’i fod wedi addo bod gyda ni bob cam o’r ffordd drwy’r Ysbryd Glân. Ac wrth i ni deithio gydag Ef, byddwn yn cael ein gwneud yn fwy tebyg iddo o ddydd i ddydd. A dyna fydd blwyddyn i’w chofio!

Tad tragwyddoldeb, plygaf ger dy fron,
Ceisiaf dy fendith ddechrau’r flwyddyn hon;
Trwy blygion tywyll ei dyfodol hi,
Arweinydd anffaeledig, arwain fi.

Beth fydd fy rhan ar hyd ei misoedd maith?
Nis gwn, fy Nuw, ni fynnwn wybod chwaith.
Ai hyfryd ddydd, ai nos dymhestlog ddaw?
Bodlon, os caf ymaflyd yn dy law.

Ffydd, gobaith, cariad – doniau pennaf gras,
Addurno f’oes wrth deithio’r anial cras;
Rho imi beunydd fyw’n d’oleuni Di;
Ddihenydd sanctaidd, tyred, arwain fi.

Heneiddia’r greadigaeth, palla dyn,
Diflanna oesoedd byd o un i un;
Er cilio popeth, un o hyd wyt Ti;
Y digyfnewid Dduw, O! arwain fi.