imageDarllenwch Eseia 9:2-7

Os oeddem ddoe yn meddwl am y baban ym Methlehem fel yr had – un ohonom ni, mae yn wahanol i ni hefyd. Mae geiriau Eseia yn agor y drws i ni weld mwy. Mae cerddoriaeth wych Handel yn ei oratorio yn gorfoleddu yn y seithfed adnod, gan adeiladu at y gair “Wonderful” sy’n dod fel bloedd ogoneddus gan y côr. Gadewch i ni aros gydag un o’r enwau yma heddiw: y Duw cadarn.

Mae’n rhyfedd fod Eseia yn gwneud y cyfeiriad hwn. Mae’n amlwg mai sôn am berson dynol mae yma – y bachgen a anwyd. Ond mae’n rhoi teitl dwyfol iddo. Pan honnai unrhyw ddyn ei fod yn ddwyfol roedd hwn yn anathema i’r Iddewon. Roedd yn gabledd, ac roedd unrhyw un fyddai’n honni’r fath beth yn haeddu cael ei labyddio, fel y gwelwn yn hanes Iesu.

Ond yn fuan fe sylweddolodd y disgyblion fod mab y saer yn fwy na hynny – a’u sylweddoliad yn dod yn llawn yng nghyffes Thomas: “Fy Arglwydd a’m Duw” (Ioan 20:28) . Dyma’r un sydd yn wir ddyn, ond hefyd yn wir Dduw. Mae hyn yn gosod Cristnogaeth arwahán i bod crefydd a syniadaeth arall. I Islam ac Iddewiaeth mae Duw arwahán i fodau dynol, y tu hwnt i’n cyrraedd. Gallai duwiau Groeg a Rhufain ymddangos fel rhith o ddynion. Gall pantheistiaeth y Dwyrain, neu crefydd yr Oes Newydd sôn am bawb a phopeth fel duw. Ond yn Iesu fe welwn un sydd yn wir Dduw yn cymryd ato’i hun natur a chorff dynol.

Os mai hyn sy’n wir, yna fedrwn ni ddim meddwl am Ŵyl y Geni heb fesur mawr o ryfeddod. Mewn oes o wyrthiau technolegol, does dim byd i’w gymharu â gwyrth yr ymgnawdoliad. Mewn oes sy’n gwneud yn fawr o “celebrities” does na neb i’w cymharu â Hwn.

Ond ydi hyn yn wir? Ddaru Iesu fyw i fyny i’r enw hwn? Darllenwch ei hanes eto. Gwelwch o efo gair yn tawelu’r gwynt a’r môr (Mathew 8:28); yn rhannu bara i’r miloedd (Ioan 6:1-14); yn galw merch Jairus a Lasarus o gwsg marwolaeth (Mathew 9, Ioan 11). Ewch i mewn i’r bedd gwag i dystio iddo goncro marwolaeth. Edrychwch arno yn eistedd ar Orsedd y nef yn Arglwydd hanes (Datguddiad 5:1-10).

Hwn yw’r baban y deuwn i sôn amdano yr adeg hon o’r flwyddyn. Pa ryfedd fod canu yn gymaint rhan o’r Nadolig! O, deuwch, ac addolwn y gwir Dduw sydd yn wir ddyn.

O! Am gael ffydd i edrych
Gyda’r anfylion fry
I drefn yr iachawdwriaeth,
Dirgelwch ynddi sy’;
Dwy natur mewn un Person
Yn anwahanol mwy,
Mewn purdeb heb gymysgu
Yn eu perffeithrwydd hwy.