imageErs sawl blwyddyn bellach ar y nos Sul cyn y Nadolig rydym yn cynnal cyfarfod Carolau yng Ngolau Cannwyll yn yr eglwys yma ym Mangor. Mae’n un o nosweithiau arbennig y flwyddyn, a doedd neithiwr ddim yn siom o gwbl.

Mae yna lawer sy’n ei gwneud yn noson braf – y naws hyfryd yn yr adeilad gyda chanhwyllau’n goleuo’r lle, gweld y lle yn llawn, y carolau a’r darlleniadau cyfarwydd.

Ond un peth ddaru fy nharo i yn arbennig neithiwr oedd y modd na fedrwch chi ddim cyfyngu egengyl Crist i un math o bobl, nac i un math o ddiwylliant. Roedd y gynulleidfa neithiwr wedi ei thynnu o sawl eglwys – eglwysi Cymraeg eu hiaith ac o leiaf un eglwys Saesneg (er fod y gwasanaeth yn gyfangwbl yn y Gymraeg). Roedd yna ffermwyr, athrawon ysgol, darlithwyr prifysgol, gweithwyr o’r sector gyhoeddus a phreifat, rhai wedi cael addysg bellach ac eraill wedi gadael yr ysgol ar y cyfle cyntaf. Rhai yn hŷn a rhai yn iau, gyda’r oed yn amrywio o bedair i bedwar-ugain.

Wrth gwrs, yn hanes y Nadolig cyntaf fe welwn yr un amrywiaeth – crefftwr o Nasareth oedd Joseff, tra roedd bod yn fugail erbyn amser Crist yn cael ei gyfrif yn un o’r swyddi isaf yn y gymdeithas. Ar y llaw arall roedd y seryddion neu’r doethion yn amlwg o ddosbarth uchel, a chydag amser a modd i astudio a meddwl. Merch ifanc yn ei harddegau oedd Mair, a Simeon ac Anna mewn henaint mawr.

Wedyn meddyliwch am y gwahanol draddodiadau neu ddiwylliant oedd yn cael eu cynrychioli neithiwr. Roedd eitemau’r noson yn cynnwys carol blygain Gymreig. Ochr yn ochr â honno cafwyd aria glasurol; wedyn roedd yna gân newydd am y Nadolig gan un o aelodau’r eglwys ar arddull boblogaidd gwbl gyfoes a grwp arall yn canu carol newydd ar un o donau swynol John Rutter. Ac yn y carolau cynulleidfaol cafwyd yr un amrywiaeth. Er fod pob arddull yn wahanol, roeddent i gyd yn gymwys yno. Roedd neges Crist i’w glywed trwy bob un o’r gwahanol gyfryngau. Un neges, ond sawl gwisg.

Eto, yn y Nadolig cyntaf go brin fod llawer yn gyffredin rhwng diwylliant y doethion â’r bugeiliaid. Redd bywydau Simeon ac Anna yn Jerwsalem yn dipyn gwahanol i fywyd y saer o Nasareth. Ond roedd yr un Gwaredwr yn eu dwyn ynghyd i addoli.

Fe ddywedodd yr angel wrth y bugeiliaid fod geni’r Iesu yn ‘newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl:’ (Luc‬ ‭2:10‬ ‭BCN‬‬). Fedrwch chi mo’i gyfyngu i un dosbarth cymdeithasol, i un diwylliant, i bobl o un oed neu un math o addysg. Dyna pam y dywedodd Crist wrth ei ddisgyblion am fentro allan i’r holl fyd – nid byd crefyddol Jerwsalem yn unig, nid y byd Iddewig yn unig, ond i bob man, ac i bobl o bob iaith: ‘Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân, a dysgu iddynt gadw’r holl orchmynion a roddais i chwi. Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.”’ (Mathew‬ ‭28:19-20‬ ‭BCN‬‬)

A dyna pam y gallwn ni fynd gyda hyder at unrhyw un a’u gwahodd hwy i ddod at Grist – yng ngeiriau’r hen garol Ladin: O! Deuwch ac addolwn Grist o’r nef