download (2)Ddoe roeddwn i’n sôn am yr adnod honno sydd mor gyfarwydd i ni: Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. (Eseia 9:6) Peth arall sy’n amlwg o’r adnod hon yw mai anrheg yw efengyl Iesu Grist i ni – Mab a roddwyd yw hwn.

Wrth gwrs, mae’r Nadolig yn amser o roi a derbyn anrhegion, a bydd yna lawer o edrych ymlaen at hynny. Ond er mor braf yw cael anrhegion, weithiau mae derbyn yn gallu bod yn anodd. Os yw yn anrheg un-ochrog – hynny yw os nad ydym ni wedi rhoi rhywbeth, mae balchder yn dod i mewn i’r darlun. Oni ddylwn i fod yn rhoi rhywbeth?

Mae hyn yn arbennig o wir pan fyddwn ni’n sôn am efengyl Iesu Grist. Rydym naill ai am feddwl ein bod yn deilwng o gariad Duw, neu rydym am gyfrannu rhywbeth ein hunain tuag at ein hiachawdwriaeth. Rhaid ein bod ni wedi gwneud rhywbeth i haeddu gwên Duw.

Felly rydech chi’n cael rhai yn meddwl bod yn rhaid iddyn nhw fod yn grefyddol iawn. Mae yna eraill sy’n meddwl fod yn rhaid iddyn nhw fod yn gwneud pethau da. (Wedi’r cwbl tydi Siôn Corn ddim ond yn ymweld â phlant da!) Rhywsut mae’n rhaid dod o hyd i ryw beth ynom ni sy’n esbonio pam fod Duw wedi ein bendithio ni. Mae yna rywbeth ryden ni am ei gyfrannu.

Ond beth mae’r Beibl yn ei ddweud? Mab a roddwyd. Mae’r iachawdwriaeth yn dod fel anrheg. Meddyliwch am rai o eiriau’r Apostol Paul:

Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw; nid yw’n dibynnu ar weithredoedd, ac felly ni all neb ymffrostio. Oherwydd ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i fywyd o weithredoedd da, bywyd y mae Duw wedi ei drefnu inni o’r dechrau. (Ephesiaid 2:8 – 10 BCN)

Sylwch pwy sy’n gweithredu yma – Duw ydi’r un gweithredol yn y cyfan.

Mae yna berygl arbennig i ni sy’n ystyried ein hunain yn efengylaidd yn y mater hwn – ryden ni am i’n safiad ni gyfrif rhywsut. Ryden ni yn osgoi llawer o fydolrwydd Nadolig y byd. Ryden ni yn mynd i’r capel, yn darllen ein Beiblau, yn byhafio. Mae hi mor hawdd llithro i feddylfryd – Crist + ein cyfraniad ni. Ond sylwch beth mae Paul yn ei ddweud – roedden ni yn feirw mewn camweddau. Gall rhywbeth marw wneud dim. Trwy ras yr ydych wedi eich achub – os gras, yna nid ein haeddiant ni.

Hyd yn oed pan fyddwn ni yn llwyddo i wneud rhywbeth yn iawn – Duw sydd y tu ôl i hynny. Mae’r apostol yn dweud wrth Gristnogion Philipi:  oblegid Duw yw’r un sydd yn gweithio ynoch i beri ichwi ewyllysio a gweithredu i’w amcanion daionus ef. (Philipiaid 2:13)

Fedrwn ni ddim cyfrannu unrhywbeth tuag at ein iachawdwriaeth. Duw sy’n gwneud y cyfan o’r dechrau i’r diwedd. Felly rhaid llyncu ein balchder a dod heb ddim ond ein hedifeirwch, i dderbyn anrheg anhygoel Duw.

Dyma Geidwad i’r colledig,
Meddyg i’r gwywedig rai;
Dyma Un sy’n caru maddau
I bechaduriaid mawr eu bai;
Diolch iddo
Byth am gofio llwch y llawr.