Adfent 2015
Tymor yr Adfent 23
Darllenwch Luc 1:26-38
Rhan fawr o’r Nadolig i lawer yw’r anrhegion. Mae hynny wrth gwrs yn golygu y bydd ambell un wrthi mewn panic yn rhuthro i’r siopau heddiw neu hyd yn oed yfory yn chwilio am yr anrheg munud olaf hwnnw. Cawn y jôcs blynyddol am yr anrhegion anaddas (y siwmper nadolig llachar) neu anniddorol (pâr arall o sannau!). (rhagor…)
Dedwyddach yw rhoi na derbyn (Actau 20:35)
Sut mae’r anrhegion erbyn hyn? Gobeithio eu bod yn dal i blesio, ond wythnos wedi’r Nadolig efallai fod yr excitement wedi lleihau bellach. Bydd rhieni yn ddiolchgar fod ambell i degan wedi tawelu am fod y batri wedi mynd yn fflat. Bydd ambell i anrheg efallai wedi torri. Mae’n siwr fod nifer ohonyn nhw yn dal i ddod â phleser mawr, ond bydd ambell un arall wedi cael ei roi o’r neilltu a rhai o’r hen deganau wedi cael dod allan erbyn hyn. Mae rhai o’r trimmings Nadolig yn edrych ychydig yn hen, nodwyddau’n disgyn oddi ar y goeden, a’r twrci gobeithio wedi hen ddiflannu. Dyna sut y dylai fod ar un olwg.
Tua Bethlem dref
Ddoe roeddwn i’n sôn am yr adnod honno sydd mor gyfarwydd i ni: Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. (Eseia 9:6) Peth arall sy’n amlwg o’r adnod hon yw mai anrheg yw efengyl Iesu Grist i ni – Mab a roddwyd yw hwn.