Albania 2

Bu heddiw yn ddiwrnod o orffwys wedi’r daith yma, a pharatoi ar gyfer yr wythnos nesaf. Daeth Zef a’r teulu draw i Qendra Stefan yn y bore i gael brecwast efo mi. Roedd yn gyfle i siarad dipyn am sefyllfa’r wlad.

Bu i’r wlad ddioddef llawer dros y blynyddoedd. Dan arweiniad Enver Hoxha aeth yn fwy a mwy unig, wrth iddo gyhuddo gwahanol lywodraethau comiwnyddol o fradychu eu hegwyddorion. Roedd yn siwr fod Nato yn disgwyl am esgus i ymosod ar y wlad. (rhagor…)

Albania 1

Dyma fi wedi cyrraedd Gwlad yr Eryr, (Neu Eryri os mynnwch), sef ystyr Shqiperia – yr enw sydd gan y bobl ar eu gwlad eu hunain. Roedd y daith yma’n rhyfeddol o ddi-drafferth, gan adael Heathrow am 6 y bore, a seibiant o dair awr ym maes awyr Vienna – cyfle i gael Paned a thamaid o Apfel Strudel – cyn teithio ymlaen i Tirana, prif-ddinas Albania.

Ni chymrodd lawer i mi gofio sut mae pobl y wlad hon yn gyrru! Roedd Zef yn y maes awyr i’m cyfarfod, a daeth â mi trwy ganol y brifddinas i westy Qendra Stefan, lle byddaf yn aros am y tri diwrnod nesaf. (rhagor…)