Yn draddodiadol roedd yr Adfent yn dymor o baratoi – ac yn sicr rydym fel pe byddem yn gweld y paratoadau ar gyfer y Nadolig yn dod yn gynharach bob blwyddyn. Bu adeg pan nad oedd y goeden yn mynd i fyny tan yr wythnos cyn yr ŵyl. Eleni mae’n syndod faint sydd wedi nodi ar twitter eu bod wedi gosod y goeden yn ei lle ar y cyntaf o’r mis. Heddiw bu Siôn Corn yn ymweld â llu o archfarchnadoedd, ac mae’r jingles Nadoligaidd yn y siopau ers tro.
Rwan peidiwch a meddwl mai ceisio cwyno yr ydw i (Gwelais gap mewn un ganolfan heddiw gyda Bah Hum Bug wedi ei weu i’w batrwm!). Rydw i’n gallu mwynhau mins pei cystal ag unrhyw un arall. Ond mae’n werth meddwl am y paratoi sydd angen digwydd. Roedd yna rai yn Jerwsalem oedd yn disgwyl – roedd Simeon yn “disgwyl am ddiddanwch Israel” (Luc 2:25). Roedd yna eraill oedd yn “disgwyl ymwared yn Jerwsalem” (Luc 2:38).
Fe fedrwn ninnau edrych ymlaen hefyd – nid yn unig am y wledd Nadolig, a’r gwmnïaeth a’r hwyl. Fe fedrwn ni hefyd edrych ymlaen at gael cofio’r rhyfeddod fod Duw wedi ymweld â ni, a hynny er mwyn ein rhyddhau ni o afael y tywyllwch.
O! Tyred Di, Emaniwel
A datod rwymau Isräel,
Sydd yma’n alltud unig trist,
Hyd ddydd datguddiad Iesu Grist;
O! cân! O! cân:
Emaniwel
Ddaw atat ti, O! Isräel.
(O’r Lladin c. J. Vernon Lewis)

Categories: Tymor yr Adfent