Mae’r Nadolig yn amser o lawer iawn o ganu ac i Gristnogion canu mawl i Dduw yw’r peth pwysig.
Un o’r dadleuon sy’n cael ei defnyddio yn erbyn Cristnogaeth ydi – pa fath o Dduw ydi hwn sy’n mynnu fod pawb yn ei addoli? – mae’n swnio’n hunanol, ego-centric. Dyma’r Duw sy’n megalomaniac.

Ond nid felly mae hi. Dywedwch fy mod i yn berchen ar un o gampweithiau Rembrandt. Fe allwn i gadw’r llun mewn cell yn y banc. Mi fyddai hynny’n diogelu fy muddsoddiad – ond fyddai’r llun ddim wir yn cael ei werthfawrogi. Mi allen ni ei roi ar wal fy stydi gartref fel bod neb ond fi yn cael ei weld. Mi fyddwn i’n gwerthfawrogi’r llun, ond byddai fawr neb arall yn cael y cyfle. Neu mi allwn ni ei fenthyg i oriel o luniau, lle byddai’r cyhoedd yn cael gweld y gampwaith – onid dyna fyddai’r gorau?
Pan fydd rhywun sy’n athrylith ar chwarae’r piano yn cynnal cyngerdd sy’n rhoi mwynhád i’w gynulleidfa fyddwn ni ddim yn ei gyhuddo o fod yn hunanol – mae’n defnyddio ei ddawn i gyfoethogi eraill.

Duw ydi’r daioni perffaith, y gogoniant mwyaf, y doethineb uchaf. Beth yw’r hyn sy’n well – ei fod yn ei gadw iddo fo’i hun neu ei rannu?
Mae’n dewis ei rannu, ac o, pa mor deilwng ydi’r Duw hwn. Gadewch i ni ganolbwyntio ar y Mab fel ail berson y Drindod Sanctaidd am funud.

Roedd y Tad yn ystyried, sut gallai ddangos gogoniant y Mab – sut mae ei rannu. Gadewch iddo, er ei fod yn Dduw, ddod yn ddyn a chael ei eni yn blentyn. Er mai hwn yw’r Gair tragwyddol, gadewch iddo orfod dysgu sut i siarad. Er fod pob dim wedi dod i fod trwyddo, gadewch iddo orfod dysgu sut i gerdded, sut i ddal cun a morthwyl. Yna gadewch iddo sugno i mewn wrthryfel y byd iddo’i hun trwy farw ar y groes, a thrwy hynny achub pechaduriaid anheilwng.
Daeth y Gair yn gnawd er mwyn i ni gael byw yn yr ysbryd. Dewisodd dlodi er mwyn i ni gael bod yn gyfoethog. Cyfnewidiodd ogoniant y nefoedd am stabal, coron gogoniant am goron o ddrain a gorsedd y nefoedd am groes, er mwyn i ni gael eistedd mewn gogoniant gydag Ef rhyw ddydd, wedi ein gwisgo â’i sancteiddrwyd yn hardd.

Onid y peth gorau allai ddigwydd i ni yw ein bod yn cael ein dwyn i mewn i weld y gogoniant hwn – gogoniant y bydd y Grand canyon neu ryfeddodau’r gofod, a gwyrth bywyd newydd mewn baban bach, yn pylu yn ei oleuni.
Onid yw Hwn ynd deilwng o’n Mawl ac addoliad? Nid Megalomaniac mo hwn – ond y prydferthwch mwyaf, y gogoniant uchaf, y doethineb dyfnaf, sy’n dewis ein gwahodd ni i weld a rhyfeddu.

O! deuwch, ffyddloniaid,
Oll dan orfoleddu,
O! deuwch, O! deuwch i Fethlehem   dref.
Wele, fe anwyd
Brenin yr angylion:
O! deuwch ac addolwn,
O! deuwch ac addolwn,
O! deuwch ac addolwn Grist o’r nef!

Fory daw cerdd i’ch cyfarch ar ddydd y Geni